Crusader Landscapes in the Medieval Levant

The Archaeology and History of the Latin East

Golygydd(ion) Kevin J. Lewis,Balázs Major,Micaela Sinibaldi,Jennifer Thompson

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Medieval, Archaeology, History

  • Awst 2016 · 544 tudalen ·234x156mm

  • · Clawr Caled - 9781783169245
  • · eLyfr - pdf - 9781783169252
  • · eLyfr - epub - 9781783169269

Am y llyfr

Ysgrifennwyd y casgliad hwn o erthyglau i ddathlu gyrfa glodwiw’r Athro Denys Pringle. Fe’u cynhyrchwyd gan lawer o’r archaeolegwyr a’r haneswyr mwyaf blaenllaw ym maes astudiaethau o’r croesgadau, gan gynnig casgliad o ysgolheictod arloesol ar astudiaethau diweddar ar y Dwyrain Lladin. Mae ehangder daearyddol y pynciau a drafodir ym mhob pennod yn adlewyrchu’r cydweithio rhyngwladol a wnaeth Pringle a’i ddiddordebau ymchwil, yn ogystal â’r diddordeb ysgolheigaidd ehangach yn y pwnc. Gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd sy’n cyfateb i wladwriaethau’r croesgadwyr yn ystod y ddeuddegfed a’r drydedd ganrif ar ddeg, mae’r erthyglau’n cynnig ymchwil hefyd i ardaloedd cyfagos Cyprus, Anatolia, Gwlad Groeg a’r Gorllewin, ac etifeddiaeth cyfnod y croesgadwyr yno, gyda chanlyniadau gwaith maes archeolegol diweddar yn y Dwyrain Canol.

Cyflwyno'r Golygydd(ion)