Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad?

Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-66

Awdur(on) Rhiannon Heledd Williams

Iaith: Cymraeg

  • Mawrth 2017 · 336 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786830586
  • · eLyfr - pdf - 9781786830593
  • · eLyfr - epub - 9781786830609

Am y llyfr

Dyma gyfrol sy’n ymdrin â hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai’r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i’r Cymry drafod pynciau’r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu’n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth – mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gŵyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu’r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.

Dyfyniadau

‘Cawn yma flas ar fwrlwm ac egni diwylliant Cymraeg yr Unol Daleithiau yng nghyfnod yr ymfudo mawr ynghyd â darlun byw o lafur William Rowlands ac eraill a wasanaethodd gymunedau helaeth o Gymry America, eu gobeithion a’u rhwystredigaethau. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at gorff cynyddol o waith sy’n esbonio pwysigrwydd ac arwyddocâd America i’r profiad Cymreig.’
-Yr Athro D. Densil Morgan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
‘Yn archwiliad rhyngddisgyblaethol cyfoethog, treiddgar a dadlennol ar wasg gyfnodol Gymraeg America yn negawdau canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg bydd y gyfrol bwysig hon yn ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn llenyddiaeth, crefydd, iaith a phrofiadau rhyngwladol y Cymry.’
-Athro Bill Jones, Prifysgol Caerdydd

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Rhiannon Heledd Williams

Mae Rhiannon Heledd Williams yn Arbenigwraig Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin. Hi yw awdur y gyfrol Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad? a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.

Darllen mwy