Cyfoethogi'r Cyfathrebu

Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion

Golygydd(ion) Christine Jones,Steve Morris

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2016 · 240 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783169085
  • · eLyfr - pdf - 9781783169092
  • · eLyfr - epub - 9781783169108

Am y llyfr

Diweddariad o’r gyfrol Cyflwyno’r Gymraeg: Llawlyfr i Diwtoriaid (2000) dan olygyddiaeth Christine Jones yw Cyfoethogi’r Cyfathrebu: Llawlyfr Ymarferol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r gyfrol hon yn cynnwys rhai o benodau’r gyfrol wreiddiol wedi’u diweddaru, ynghyd â phenodau newydd ar feysydd sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y maes ers 2000 (er enghraifft, dysgu anffurfiol, addysgu ar-lein, y fframwaith asesu newydd a chyfraniad y maes i bolisïau iaith cenedlaethol). Ceir penodau ar y wers gyntaf, gweithgareddau cyfathrebol, meithrin sgiliau gwahanol megis sgiliau ysgrifennu neu sgiliau gwylio, a phennod agoriadol ar ddulliau dysgu ar dwf y maes a’r syniadau a ddylanwadodd ar fethodoleg dros yr ugeinfed ganrif a’r ganrif hon.

Cynnwys

Rhagair
Pennod 1: Dulliau Dysgu a’r Dosbarth Iaith - Emyr Davies
Pennod 2: Cynllunio Gwers - Chris Reynolds
Pennod 3: Y Wers Gyntaf – Geraint Wilson-Price
Pennod 4: Gweithgareddau Cyfathrebol – Elwyn Hughes
Pennod 5: Meithrin Sgiliau Darllen – Helen Prosser
Pennod 6: Meithrin Sgiliau Ysgrifennu – Phyl Brake
Pennod 7: Meithrin Sgiliau Gwrando a Deall a Gwylio a Deall – Julie Brake
Pennod 8: Asesu – Emyr Davies
Pennod 9: Dysgu Anffurfiol – Siôn Meredith
Pennod 10: E-ddysgu a rôl yr e-diwtor – Christine Jones
Pennod 11: Polisi ac Ymchwil ym Maes Cymraeg i Oedolion – Steve Morris
Atodiad: Cymhwyster Cenedlaethol Dysgu-cyfunol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion – Mair Evans

Cyflwyno'r Golygydd(ion)

Awdur(on): Christine Jones

Mae gan Dr Christine Jones dros ddau degawd o brofiad yn addysgu Cymraeg i oedolion ac yn darlithio i fyfyrwyr ail iaith, ac mae hi hefyd yn awdur nifer fawr o werslyfrau i ddysgwyr.

Darllen mwy

Awdur(on): Steve Morris

Mae Steve Morris yn ymwneud â Chymraeg i oedolion ers dros dri degawd, ac mae’n darlithio ym maes iaith ac ieithyddiaeth gymhwysol. Mae’n gyd-ymchwilydd ar brosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes).

Darllen mwy