Cyfri’n Cewri
Hanes Mawrion ein Mathemateg
Awdur(on) Gareth Ffowc Roberts
Iaith: Cymraeg
- Gorffennaf 2020 · 171 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781786835949
- · eLyfr - pdf - 9781786835956
- · eLyfr - epub - 9781786835963
Am y llyfr
Dyfyniadau
‘Petawn i wedi cael Gareth Ffowc Roberts yn athro, rwy’n grediniol y byddai fy myd-olwg yn wahanol. Mae ganddo’r ddawn brin o egluro “rhyfeddod y cread” mewn dull hynaws ac agos atoch. Gwnaeth i fathemateg Cymru yr hyn a wnaeth Peter Lord i gelf Cymru – cryfhau ein ymwybyddiaeth o gewri ein gwlad, ac ymfalchïo ynddynt.’
-Angharad Tomos, awdures
‘Gwych oedd cael f’atgoffa gan y gyfrol ryfeddol yma fod mathemateg yn perthyn i ni gyd ac yn rhan o’n hanes cenedlaethol. A gwych hefyd ydi gweld yr awdur ar ei orau yn gwneud mathemateg yn berthnasol, hygyrch a hynod ddiddorol hyd yn oed i glown fel fi.’
-Tudur Owen, comedïwr a darlledwr
‘Fe ddylai hwn fod ar silff lyfrau unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Cymru, oherwydd mae gorchestion ein mathemategwyr yn rhan mor bwysig o’r hanes hwnnw, ac yn allweddol i’n dealltwriaeth o’n byd ni heddiw.’
-Dr Elin Jones, hanesydd ac addysgwr
‘Cyfrol ddifyr sy’n amlygu cyfraniad anhygoel rhai o’r Cymry i ddatblygiad mathemateg, ac effaith y cyfraniadau hynny ar ein bywydau bob dydd. Dyma gyfrol bwysig sy’n rhoi’r sylw teilwng i rai o’n mathemategwyr mwyaf nodedig, pobl a ddylai gael yr un sylw a rhai o’n llenorion a’n cantorion enwocaf.’
-Dr Tudur Davies, Adran Fathemateg , Prifysgol Aberystwyth
‘Casgliad cyfoethog o hanesion mawrion mathemateg ein cenedl. Campwaith arall gan yr awdur – mae’r straeon yn eich tynnu i mewn i ddysgu rhywbeth newydd am bob un o’r deuddeg arwr o fewn y cloriau. PAId â bod ofn ei ddarllen!’
-Dr Gareth Evans, Pennaeth Mathemateg, Ysgol y Creuddyn
‘Clamp o gyfrol ddifyr sy’n goglais ein diddordeb mewn pobl a byd prydferth mathemateg fel ei gilydd. Dyma stori’r Cymry a mathemateg, ac ry’n ni i gyd yn rhan o’r hafaliad. Wele ryfeddod y rhifau a’u rhin.’
-Elinor Wyn Reynolds
'Gwlad beirdd a chantorion – a mathemategwyr o fri?' - Gareth Ffowc Roberts gydag erthygl am ei lyfr ar wefan BBC Cymru Fyw https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/54058235
Cynnwys
Lluniau
Diolchiadau
Rhagair
Map o Gymru
1Rwyf yn meddwl am rif
2O Fôn ar draws y Fenai
3Fel pader aeth pŵer pai
4Hap a damwain
5Uchelgaer uwch y weilgi
6Cawr ymhlith corachod
7Beth yw teitl y bennod hon?
8Mathemateg i’r miliwn
9O ba le y daw doethineb?
10Clirio’r dagfa
11Manylu ar anfanyldeb
12Siapiwch hi!
13I gloi
14Atebion i’r Posau
15Nodiadau ar y Penodau
16Mynegai