Cymraeg yn y Gweithle
Awdur(on) Rhiannon Heledd Williams
Iaith: Cymraeg
- Gorffennaf 2018 · 288 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781786832764
- · eLyfr - pdf - 9781786832771
- · eLyfr - epub - 9781786832788
Am y llyfr
Yn sgil y Mesur Iaith a’r Safonau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, mae mwy o alw nag erioed am weithwyr proffesiynol dwyieithog yng Nghymru heddiw. Dyma lawlyfr ymarferol sydd â ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle, er mwyn ymestyn sgiliau iaith yn bennaf mewn cyd-destunau penodol a dulliau ymarferol. Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith neu’n dymuno magu hyder wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Ceir yma gyfarwyddiadau, enghreifftiau a phatrymau i’w hefelychu, tasgau ac ymarferion a phwyntiau trafod. Nid cyfrol ramadeg yw hon, ond llawlyfr hylaw sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun proffesiynol – canllaw defnyddiol ar gyfer gweithlu cyfoes yr 21ain ganrif.
I ddarllen erthygl Rhiannon Heledd Williams am ei chyfrol, ewch at wefan Parallel.Cymru https://parallel.cymru/rhiannon-heledd-williams-cymraeg-yn-y-gweithle/
Dyfyniadau
‘Mae’r llyfr ymarferol yma’n cynnig arweiniad trylwyr i rai sydd am fod ymhlith y nifer cynyddol sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn werthfawr hefyd i addysgwyr yn y maes, gan fod yma doreth o enghreifftiau o ddeunyddiau, tasgau, cynghorion, cyfarwyddiadau, pynciau trafod, ymarferion a chanllawiau iaith. Mae’r cyfan wedi’i gyflwyno’n drefnus a chlir.’
- Heini Gruffudd
‘Dyma arweiniad ymarferol i unrhyw ddarlithydd neu fyfyriwr ym maes Cymraeg Proffesiynol yn ogystal â chanllaw defnyddiol i’r sawl sydd am ymestyn y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Â’r gyfrol yn stôr o wahanol ymarferion, diolch am adnodd cyfoethog sy’n ateb galw cyfredol.’
-Yr Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor
‘Cyfrol anhepgor i bawb sy’n defnyddio neu’n bwriadu defnyddio’r Gymraeg ym myd gwaith. Mae’r pwyslais ymarferol ynghyd â’r tasgau pwrpasol yn tywys y darllenydd yn hwylus o’r broses ymgeisio – trwy amrywiaeth o orchwylion nodweddiadol byd gwaith – i ymarfer proffesiynol.’
-Dr Steve Morris, Prifysgol Abertawe
‘Mae’r llyfr hwn yn llywio’r darllenydd yn ofalus ac yn ddeheuig drwy’r holl sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn gweithio’n llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg.’
-Elin Meek
Cynnwys
CYNNWYS
Cyffredinol: Llunio Dogfen Broffesiynol
Adran 1: Y Broses Ymgeisio am Swydd
Adran 2: Tasgau Byd Gwaith
Adran 3: Ymarferwyr Proffesiynol
Atodiad