Cymru'r Gyfraith

Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol

Awdur(on) R. Gwynedd Parry

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2012 · 240 tudalen ·234x156mm

  • · Clawr Meddal - 9780708325148
  • · eLyfr - pdf - 9780708325193
  • · eLyfr - epub - 9780708326282

Am y llyfr

Cyfrol sydd yn trafod mewn modd difyr a darllenawdwy rhai o'r pynciau mwyaf heriol a dadleuol ym myd y gyfraith yng Nghymru heddiw.

Dyfyniadau

"Mae'n gampwaith o ysgolheictod blaengar ac o ymchwil toreithiog sy'n olrhain hunaniaeth gyfreithiol Gymreig o Statud Rhuddlan hyd at Refferendwm 2011; a hynny ym mhob maes sy'n berthnasol. Fel yr aeddfeda'r ffenomenon hon i faintioli credadwy, deuwn wyneb yn wyneb a phosibiliadau enfawr y dyfodol, a hefyd y pergylon, yng nghyswllt ein cenedligrwydd yn gyffredinol ac ym myd ein hiaith yn arbennig. Mae'n llyfr sy'n darllen yn wefreiddiol ac yn astudiaeth orfodol, nid yn unig i bobl y gyfraith ond i'r sawl a ddeisyf ryw ddydd weld Cymru yn genedl gyflawn." Arglwydd Elystan Morgan

Cynnwys

1. Y Ddeddfwrfa Gymreig Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel gwneuthurwr cyfraith. Y Llwybr i Ddatganoli Cyrraedd y Nod Deddf Llywodraeth Cymru 1998 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Llywodraeth Cymru Deddfwriaeth: Y Cyfnod 2006-2011 - Mesurau'r Cynulliad - Ychwanegu at Gymhwysedd Deddfwriaethol y Cynulliad Drafftio Deddfwriaeth Deddfwriaeth: o 2011 ymlaen - Comisiwn Cymru Gyfan - Refferendwm 3 Mawrth 2011 Y Ddeddfwrfa Gymreig - Cynulliad neu Senedd? 2. Iaith Cyfiawnder Statws cyfreithiol yr iaith Gymraeg a'i defnydd o fewn y gyfundrefn gyfreithiol. Sarhad y Deddfau Uno Deddf Llysoedd Cymru 1942 Ymgyrchoedd yn 1960au Agweddau Barnwrol...y 1960au Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 Y Dimensiwn Rhyngwladol Siarter Ieithoedd Ewrop Agweddau Barnwrol - Ar ol Datganoli Deddfu yng Nghymru Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 - Statws Swyddogol y Gymraeg - Comisiynydd y Gymraeg: Pencampwr y Gymraeg - Tribiwnlys y Gymraeg 3. Rheithgorau Dwyieithog - Penbleth Geltaidd? Pwnc penodol sydd yn amlygu'r tensiynau a'r gwrthdaro gwerthoedd o fewn awdurdodaeth unedig Cymru a Lloegr. Cefndir Gwasanaeth Rheithgor fel Braint Dinasyddiaeth - Cyd-destun Hanesyddol - Dinasyddiaeth: Y Dimensiwn Ieithyddol - Y Profiad Gwyddelig Safonau Ewropeaidd? Achosion Teg a Chyfiawnder Troseddol Rheithgorau Dwyieithog: 'ymosodiad sylfaenol'? Ymateb Llywodraeth Prydain 4. Ysgolheictod Cyfraith Swyddogaeth a chyfraniad ysgolheictod cyfraith i ddatblygiad Cymru'r Gyfraith. Dechreuadau Cyfnod yr Ehangu Y Cyfnod Modern a Datganoli Wynebu'r Rhwystrau - Economeg a Globaleiddio - Adnoddau - Diwylliant Ymchwil Y cyd-destun Ewropeaidd - Cefnogi'r egwyddor - Hyrwyddo gweithredu 5. Yr Awdurdodaeth Gymreig Er mwyn i Gymru aeddfedu fel democratiaeth gyflawn, gofynnir, oes angen sefydlu awdurdodaeth Gymreig? Awdurdodaeth Lloegr...'a Chymru' Awdurdodaeth Gymreig? Y Gwrthwynebiad Cymhariaeth - Gogledd Iwerddon Dadleuon o blaid yr Awdurdodaeth Gymreig - Y Ddadl Gyfansoddiadol - Dadl Effeithiolrwydd - Y Ddadl Economaidd - Y Ddadl ddiwylliannol-ieithyddol

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): R. Gwynedd Parry

Mae R. Gwynedd Parry yn academydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010 cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.

Darllen mwy