Darllen y Dychymyg
Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Awdur(on) Siwan M. Rosser
Iaith: Cymraeg
Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
- Rhagfyr 2020 · 336 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781786836502
- · eLyfr - pdf - 9781786836519
- · eLyfr - epub - 9781786836526
Am y llyfr
Dyfyniadau
‘Cyfrol wefreiddiol o arloesol yw hon am lên plant Cymraeg gan y brif arbenigwraig yn y maes. Mae’n olrhain y cychwyn yn ôl i’r llyfrau a’r cylchgronau crefyddol, addysgol a bucheddol ar gyfer yr ieuainc a gyhoeddwyd gan yr enwadau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A dengys inni sut I werthfawrogi’r cynnyrch hwn o’r newydd trwy ddeall bydolwg “estron” y cyfnod. Dyma astudiaeth sy’n cyfoethogi ein hadnabyddiaeth o’n gorffennol.’
-Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe
‘Cyfrol anhepgor yw hon ar gyfer deall Cymry’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan gydblethu ymchwiliadau hanesyddol, cymdeithasegol a llenyddol, datgelir natur y gymdeithas honno trwy ddadansoddi ei llên ar gyfer plant. Mae gwers i’r Gymru gyfoes yma hefyd, yn y pwyslais ar effeithiau niweidiol glynu at gysyniad rhy gul o blentyndod.’
-Yr Athro Emerita Jane Aaron, Prifysgol De Cymru
‘Oes, mae yma bennod hynod yn hanes ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’. Pennod arwrol, a phethau gwrthun ynddi hefyd. Diolch i Siwan Rosser am roi inni astudiaeth sy’n ein cymell i feddwl ac i ailfeddwl, i geisio deall ein gorffennol yn well drwy ofyn mwy a mwy o gwestiynau.’
– Dafydd Glyn Jones, Cylchgrawn Barn Ebrill 2021
Cynnwys
Rhagair
Rhestr o ddarluniau
ADRAN 1 Cyflwyniad i’r maes
1. Llenyddiaeth Gymraeg i blant
2. Ailafael yn yr Anrheg
ADRAN 2 1820au–1840au
3. Y plentyn arwrol
4. Y plentyn darllengar
ADRAN 3 1840au–1880au
5. Dyfeisio plentyndod
6. Delfrydau newydd
7. Ymestyn y dychymyg a’r meddwl
8. Casgliadau
Ôl-nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai