Diwinyddiaeth Paul

Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig

Awdur(on) John Tudno Williams

Iaith: Cymraeg

  • Mawrth 2020 · 240 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786835321
  • · eLyfr - pdf - 9781786835338
  • · eLyfr - epub - 9781786835345

Am y llyfr

Cyflwynir yma holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’I alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a chyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad i astudiaethau Paulaidd.

Dyfyniadau

‘Dyma ffrwyth ymchwil manwl a thrylwyr i wahanol agweddau ar fywyd a diwinyddiaeth Paul gan un sy’n awdurdod yn y maes. Mae dadansoddiad yr awdur o ddiwinyddiaeth yr Apostol yn feistrolgar, a bydd y gyfrol yn anhepgor i weinidogion ac, yn wir, i bawb sy’n ymddiddori ym maes y Testament Newydd.’
-Yr Athro Emeritws Eryl W. Davies, Prifysgol Bangor

‘Yn y gyfrol ardderchog hon, llwydda John Tudno Williams i gyfleu holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul, tra ar yr un pryd grynhoi’n ddestlus y farn ysgolheigaidd gyfoes arno. Gwnaeth hynny mewn Cymraeg clir a chroyw sy’n bleser i’w darllen. Dyma’r astudiaeth fwyaf cyflawn sydd gennym eto ar y pwnc a chyfraniad hynod gyfoethog i’r meddwl diwinyddol Gymreig.’
-Yr Athro Emeritws D. Densil Morgan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

‘Ffrwyth dros ddeng mlynedd ar hugain o astudio, ymchwilio a dysgu yw’r gyfrol hon, ac ynddi mae’r Athro yn datgelu meddwl yr Apostol. Prif bynciau diwinyddiaeth Paul sydd dan sylw mewn astudiaeth dreiddgar, fywiog a gwerthfawr.’
-Dr Robert Pope, Is-Brifathro Coleg Westminster, Caer-grawnt

'Rhan o swyn y gyfrol yw bod yr awdur yn amlwg yn ymddigrifo yn ei dasg a rhaid dotio at ei frwdfrydedd dros ei bwnc. Llwydda i gyfleu nifer fawr o faterion anodd mewn iaith goeth, gan ddangos yn eglur y dylanwadau amrywiol ar feddwl Paul.'
– Elwyn Richards, Cylchgrawn Barn, Gorffennaf 2020

Cynnwys

Rhagarweiniad
Byrfoddau
1. Paul ac Iesu
2. Bywyd Cynnar yr Apostol Paul a’i Gefndir Meddyliol
3. Tröedigaeth neu Alwad?
4. Paul a’r Gyfraith
5. Soterioleg Paul
6. Cristoleg Paul
7. Anthropoleg Paul a’r Ysbryd yn Llythyrau Paul
8. Dysgeidiaeth Foesol Paul
9. Yr Eglwys yn Paul
10. Eschatoleg Paul
12. Y Llythyrau Diweddar a’r Epistolau Bugeiliol
Llyfryddiaeth
Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): John Tudno Williams

Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw’r awdur. Bu’n darlithio ym meysydd yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, am gyfnod helaeth, ac mae’n awdur esboniadau ar dri o lythyrau’r Apostol Paul. Bu’n Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr 1990–1.

Darllen mwy