Dwy Gymraes, Dwy Gymru

Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders

Awdur(on) Rosanne Reeves

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Gender Studies in Wales

  • Mehefin 2014 · 192 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783160617
  • · eLyfr - pdf - 9781783160624
  • · eLyfr - epub - 9781783161980

Am y llyfr

Cyflwyniad o fywyd a gwaith dwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn. Mae'n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes gan nad oes ymchwil manwl wedi ei wneud cyn hyn ar Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders, dwy a bontiodd y bwlch rhwng yr awduresau petrusgar a ddenwyd allan o'u hogofau gan Granogwen, golygydd y Frythones (1879 - 89), a'r rhai a ddaeth ar eu hol yn yr ugeinfed ganrif. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at yr amryw gyfrolau ac erthyglau sydd wedi ymddangos ers yr 1980au ar gyfraniad hollbwysig y Gymraes at ddiwylliant ei chenedl. Mae'n lyfr delfrydol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth y Gymraes yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dorri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes a chyfoethogi ein dealltwriaeth o awduron benywaidd anghofiedig y Gymru Gymraeg.

Dyfyniadau

Cymwynas fawr y gyfrol hon yw tynnu ein sylw o’r newydd at ddwy o bendefigesau oes aur Ymneilltuaeth a Rhyddfrydiaeth Gymreig. Aeth y ddwy yn angof, bron, ond ar sail eu cyfraniad arloesol yn eu dydd a’u rhagoriaeth fel llenorion, maent yn sicr yn haeddu cael eu hailddarganfod heddiw.
Yr Athro E. Wyn James, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Cynnwys

Pennod Un: Cyfraniad Cymraes Anghofiedig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg i'w Chenedl Pennod Dau: Annie Harriet Jones (Gwyneth Vaughan) - Athrylith Ardudwy Pennod Tri: Sara Maria Saunders - Merch y Methodistiaid Pennod Pedwar: Llenyddiaeth Gwyneth Vaughan Pennod Pump: Llenyddiaeth Sara Maria Saunders Pennod Chwech: Cymharu Llenyddiaeth Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders Diweddglo

Cyflwyno'r Awdur(on)