Fifty Years in Politics and the Law

Awdur(on) John Morris

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Politics

  • Medi 2011 ·234x156mm

  • · Clawr Caled - 9780708324189
  • · eLyfr - pdf - 9780708324219
  • · eLyfr - epub - 9780708326367

Am y llyfr

Dyma hunangofiant yr Arglwydd John Morris o Aberafan. Ceir yma hanes ei fagwraeth yng Ngheredigion cyn dilyn ei yrfa wleidyddol fel Aelod Seneddol Plaid Lafur (1959-2001) a'i gyfnod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1974 ac 1979.

Dyfyniadau

BU gyrfa wleidyddol John Morris yn un hir a nodedig, yn wir yn hollol unigryw o fewn bywyd gwleidyddol Cymru'r ugeinfed ganrif. Ar ol ei wrthod fel ymgeisydd mewn etholaethau eraill, etholwyd ef i Dy'r Cyffredin fel yr AS Llafur dros sedd hollol ddiogel Aberafan yn etholiad cyffredinol Hydref 1959 yn y cyfnod pan roedd Hugh Gaitskell yn arweinydd ar y blaid. O'r cychwyn cyntaf, gwnaeth argraff ddofn ar ei gyd-aelodau Llafur a'r byd gwleidyddol yn San Steffan. Gan i'r awdur rannu'r testun yn chwech-ar-hugain o benodau cymharol fer ac iddynt strwythur cronolegol, hawdd yw dilyn ei yrfa ar hyd y daith o Gapel Bangor i'r Senedd ac yna i'r Arglwyddi. Hefyd dewiswyd nifer fawr o luniau deniadol ac arwyddocaol o'r albwm teuluol sydd yn wir gaffaeliad i'r gyfrol. J Graham Jones, Y Cymro "This excellent book is a first class insight, over fifty years, into the inner workings of the British Government and Welsh politics, as well as shedding much light on our justice system - a great read. " Paul Murphy MP, House of Commons "He talks of being a circus artist riding two horses (politics and the law). I found myself exhausted by the sheer logistics of the man...one note of irony comes with his carefully written and important chapter on Kosovo for at this time Prime Minister (Blair) was not getting the legal advice he wanted from his Attorney General...He has provided a text book for all those M.Ps who feel only their impotence". Professor Peter Stead "Wise words from a wise old bird who has seen a great deal in a long, tenacious career." Michael White, The Guardian Newspaper

Cyflwyno'r Awdur(on)