Geirfâu’r Fflyd, 1632-1633

Casgliad John Jones, Gellilyfdy o eiriau'r cartref, crefftau, amaeth a byd natur

Awdur(on) Ann Parry Owen

Iaith: Cymraeg

  • Mai 2023 · 540 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Caled - 9781837720545
  • · eLyfr - pdf - 9781837720552
  • · eLyfr - epub - 9781837720569

Am y llyfr

Mae John Jones, Gellilyfdy, sir y Fflint (c.1580–1658) yn enwog fel ysgrifydd medrus a dibynadwy a gopïodd nifer helaeth o destunau canoloesol, mewn llaw galigraffig hardd. Mae ei gopïau o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol yn arbennig o werthfawr i’r ysgolhaig Cymraeg, gan nad yw ei ffynonellau’n aml wedi goroesi. Ond nid copïwr yn unig oedd John Jones. Pan oedd yng ngharchar y Fflyd yn Llundain yn ystod y 1630au cynnar, cynhyrchodd restrau o dros 7,000 o eiriau wedi eu trefnu’n thematig dan 130 o benawdau, gan eu cofnodi’n daclus mewn tair llawysgrif. Mae’r geirfâu hyn, a gyhoeddir yma am y tro cyntaf, yn cynnwys geiriau am sawl agwedd ar fywyd bob dydd: y tŷ a’i gynnwys; crefftwyr traddodiadol a’u hoffer; dyn, ei gorff a’i afiechydon, a’r gemau a’r chwaraeon a’i difyrrai; a byd natur, gan gynnwys rhestrau maith o enwau coed, llysiau, pysgod ac adar. Rhydd y geirfâu gipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd ac iaith gŵr bonheddig o sir y Fflint ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, yn ogystal ag ychwanegu’n fawr at eirfa Gymraeg hysbys y cyfnod.

Dyfyniadau

‘Cyfraniad pwysig i astudio hanes geirfa’r Gymraeg, sef geiriadur thematig yr ysgrifydd nodedig John Jones, Gellilyfdy: geiriau o’i gasgliadau a rhai a oedd yn rhan o’i eirfa feunyddiol. Mae llawer o’r deunydd heb gyrraedd Geiriadur Prifysgol Cymru eto, a’r cyfan wedi ei roi yn ei gyd-destun a’i olygu’n fedrus gan olygydd a geiriadurwr profiadol iawn.’

Gareth A. Bevan, Golygydd Ymgynghorol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru

‘Dyma drysorfa ieithyddol a ddylai ddifyrru unrhyw un sy’n ymhyfrydu yng ngeirfa’r Gymraeg. Yng ngharchar y Fflyd yn Llundain ddechrau’r 1630au lluniodd John Jones o’r Gellilyfdy eirfâu yn adlewyrchu bywyd beunyddiol ei oes yn ei lawnder. Cofnododd rai geiriau heb fod mewn llenyddiaeth na geiriaduron, gan adlewyrchu iaith y gogledd-ddwyrain. Mae’r golygiad yn gampwaith o ysgolheictod gwybodus a gofalus.’

Yr Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams

Cynnwys

RHAGAIR
DELWEDDAU
BYRFODDAU
RHAGYMADRODD
1 John Jones: Bywgraffiad byr
2 Gwaith geiriadurol a geirfaol John Jones
1 Gwaith geiriadurol
2 Gwaith geirfaol
3 Peniarth 308
3 Geirfâu’r Fflyd
1 Y tair llawysgrif a’u cynnwys
2 Y drefn thematig
3 Natur a phwysigrwydd Geirfâu’r Fflyd
4 Ffynonellau
5 Y Cyfreithiau
6 Vocabularium Cornicum
4 Geiriaduron thematig
5 John Jones a’r traddodiad geiriadurol Cymraeg
6 Iaith ac orgraff
1 Iaith
2 Orgraff ei Gymraeg
3 Orgraff ei Saesneg
7 Diweddglo
DULL Y GOLYGU
Rhan I: Y Testun
Rhan II: Y Mynegai Nodiadol
RHAN I: Y TESTUN
Llyfr I: Peniarth 304
Llyfr II: Peniarth 305
Llyfr III: Peniarth 306
ATODIAD
1 Amrafaelion henwae ar lysseuoedd yn lladin a Saesnec a Chymraeg
2 Amrafel henweu i’r un llysiewyn
3 Henwae llysie yn Gymraeg ac yn Saesnec
4 Geirieu y’w doedyd wrth anifelied
5. Henwae priodol ar ychen
6 Henwae ar warthog
7 Henwae ar wyr ynymrafaelio ar yrun henw
RHAN II:MYNEGAI NODIADOL
Mynegaii EiriauYchwanegol
LLYFRYDDIAETH

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Ann Parry Owen

Mae Ann Parry Owen yn Athro yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ac yn Olygydd Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru.

Darllen mwy