George Whitefield Tercentenary Essays

Golygydd(ion) William Gibson,John Morgan-Guy

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Religion

  • Hydref 2015 · 144 tudalen ·210x148mm

  • · Clawr Meddal - 9781783168330
  • · eLyfr - pdf - 9781783168347
  • · eLyfr - epub - 9781783168354

Am y llyfr

Mae’r rhifyn arbennig hwn o The Journal of Religious History, Literature and Culture yn cynnwys rhai o’r papurau a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol ‘George Whitefield after Three Hundred Years’ a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2014 yng Ngholeg Pembroke, Rhydychen, yn coffáu trichanmlwyddiant geni George Whitefield ym 1714.

Roedd y Parchedig George Whitefield (1714 - 1770) yn un o arweinwyr cynnar pwysig y Methodistiaid, yn glerigwr ac yn awdur, nad yw wedi denu cymaint o sylw ysgolheigaidd â John a Charles Wesley. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cynnwys erthyglau ar ‘George Whitefield and the Secession Movement’s Reaction to the Cambuslang Revival’ gan Kenneth BE Roxburgh; ‘George Whitefield and Anti-Methodist Allegations of Popery, c.1738 - c.1750’ gan Simon Lewis; ‘Latitudinarian responses to Whitefield, c.1740 -1790’ gan GM Ditchfield; ‘Preachers, prints and portraits: Methodists and image in Georgian Britain’ gan Peter S. Forsaith, gydag wyth o ddelweddau deniadol; ‘George Whitefield’s Journals: A Publishing Phenomenon’ gan Digby James; a ‘George Whitefield’s Reception in Twentieth-Century German-Speaking Theology’ gan Maximilian J. Hölzl.

Cyflwyno'r Golygydd(ion)