Gras, Gobaith a Gogoniant

Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan

Awdur(on) D. Densil Morgan

Iaith: Cymraeg

  • Medi 2024 · 128 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781837721986
  • · eLyfr - pdf - 9781837721993
  • · eLyfr - epub - 9781837722006

Am y llyfr

Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.

Cynnwys

Rhagair
Rhestr dyddiadau a ffeithiau bywgraffyddol
Byrfoddau
Pennod 1: Emrys ap Iwan yn yr ugeinfed ganrif a thu hwnt
i.T. Gwynn Jones a Saunders Lewis
ii.R. T. Jenkins a D. Myrddin Lloyd
iii.Yr adwaith a chanol y ganrif
iv.Y saithdegau a’r wythdegau
v.Y ganrif newydd
Pennod 2: Y Beibl a’r cyd-destun diwinyddol
i.Emrys ap Iwan a’r Beibl
ii.Y cyd-destun diwinyddol
Pennod 3: Emrys ap Iwan a sylwedd y ffydd
i.Trindodaeth a’r athrawiaeth am Dduw
ii.Cristoleg ac athrawiaeth yr iawn
Pennod 4: Ufudd-dod ffydd, yr eglwys a’r sacramentau
i.Ffydd, gweithredoedd a phrofiad
ii.Athrawiaeth Emrys am yr eglwys
iii.Y sacramentau: bedydd a’r cymun
Pennod 5: Cenedlaetholdeb a diwinyddiaeth diwylliant
i.Cenedlaetholdeb Emrys
ii.Y gorchymyn diwylliannol
Pennod 6: Eschatoleg a’r Farn
Pennod 7: Bwrw golwg yn ôl
Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): D. Densil Morgan

Mae D. Densil Morgan yn Athro yn yr Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Darllen mwy

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!