Griffith Davies
Arloeswr a Chymwynaswr
Awdur(on) Haydn E. Edwards
Iaith: Cymraeg
Cyfres: Scientists of Wales
- Ebrill 2023 · 232 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781837720316
- · eLyfr - pdf - 9781837720323
- · eLyfr - epub - 9781837720330
Am y llyfr
Dyfyniadau
‘Portread rhagorol o lanc tlawd o fro’r chwareli yn Sir Gaernarfon yn dringo i fod yn actiwari gyda’r blaengaraf yn Llundain ei ddydd yw’r llyfr hwn. Y mae’r awdur – sydd yntau o’r un fro – wedi’i drwytho nid yn unig ym mathemateg Griffith Davies, ond yn ei ddiwinyddiaeth a’i foeseg yn ogystal, ac wedi rhoi inni fywgraffiad i’w drysori.’
Derec Llwyd Morgan, addysgwr
‘Stori am gymeriad rhyfeddol y dylai pob Cymro ei chlywed. Ond mae'r gyfrol yn cynnig gymaint mwy. Cawn Griffith Davies yng nghyd-destun ei oes, ei gefndir, ei ffydd a’r heriau a wynebodd, mewn ffordd eithriadol fyrlymus a byw. Diolch i Haydn Edwards am y gwaith pwysig hwn. Perl o lyfr.’
Angharad Tomos, awdures
‘Dyma gyfrol ddisglair sy’n agoriad llygad i’w groesawu. Llwyddodd yr awdur i lunio portread gafaelgar o allu athrylithgar Griffith Davies, a’i osod yn ei gyd-destun priodol. Mae gan Gymru arwr newydd i’w glodfori!’
Huw Edwards, darlledwr
‘Haydn Edwards yw un o addysgwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’n cael diléit o’r pynciau y cafodd arbenigo ynddynt – gan helpu ieuenctid Cymru i ddatblygu eu doniau. Dim rhyfedd, felly, iddo wirioni ar gampwaith gwas fferm o blwyf Llandwrog, na chafodd fawr ddim addysg, wrth ddod yn arweinydd byd ym maes asesu risg. Dylai hanes Griffith Davies ysbrydoli’r genedl.’
Dafydd Wigley, gwleidydd
Cynnwys
Rhagair Golygydd y Gyfres
Lluniau
Diolchiadau
Rhagair
1 Bore Oes
2 Y Chwarelwr
3 I Lundain a Dysgu
4 Yr Actiwari
5 Yr Ymgyrchydd
6 Yr Alltud
7 Arloesi ac Anrhydeddau
8 Y Penteulu
9 Addysg a Chymwynasau
10 Yr Hybarch
11 Cefnogi a Chrefydda
12 Pen y daith ac Epilog
Nodiadau
Mynegai