O’r canol oesoedd hyd heddiw mae gan Gymru hanes hir a phwysig o gyfrannu i ddarganfyddiadau a menter wyddonol a thechnolegol. O ysgolheigion canoloesol i wyddonwyr a pheirianwyr cyfoes, mae Cymry wedi bod yn flaenllaw yn yr ymdrech i ddeall a rheoli’r byd o’n cwmpas. Mae gwyddoniaeth wedi chwarae rôl allweddol o fewn diwylliant Cymreig am ran helaeth o hanes Cymru: roedd y beirdd llys yn tynnu ar syniadau gwyddonol yn eu barddoniaeth; roedd gan wŷr y Dadeni ddiddordeb brwd yn y gwyddorau naturiol; ac roedd emynau arweinwyr cynnar Methodistiaeth Gymreig yn llawn o gyfeiriadau gwyddonol. Blodeuodd cymdeithasau gwyddonol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a thrawsffurfiwyd Cymru gan beirianneg a thechnoleg. Bu gwyddonwyr Cymreig yn ddylanwadol mewn sawl maes gwyddonol a thechnolegol yn yr ugeinfed ganrif hefyd.
Mae’r gyfres hon yn tanlinellu cyfraniad gwyddoniaeth a thechnoleg yn hanes Cymru. Mae ei chyfrolau’n olrhain gyrfaoedd a champau gwyddonwyr Cymreig, gan osod eu gwaith o fewn ei gyd-destun diwylliannol. Dengys sut y cyfrannodd gwyddonwyr a pheirianwyr at greu’r Gymru fodern yn ogystal â sut mae Cymru wedi chwarae rhan hanfodol yn natblygiad gwyddoniaeth a pheirianneg fodern.