Evan James Williams

Ffisegydd yr Atom

Awdur(on) Rowland Wynne

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Scientists of Wales

  • Mehefin 2017 · 192 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786830722
  • · eLyfr - pdf - 9781786830739
  • · eLyfr - epub - 9781786830746

Am y llyfr

Dyma gyfrol sy’n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gŵr a gafodd ei ddisgrifio fel un o’r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe’i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda’r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na’i gariad tuag at fro ei febyd a’i diwylliant.

Dyfyniadau

'Mae Rowland Wynne yn disgrifio y ffiseg sy’n gefndir i bopeth mewn dull medrus heb godi braw ar ddarllenwyr gyda fformiwlâu. Felly gall unrhyw un sydd â diddordeb ym mywyd un o’n gwyddonwyr mwyaf disglair ddilyn y testun a chael dealltwriaeth o’r hyn a gyflawnodd. Mae disgrifiadau pellach i’w cael yn y nodiadau ar ddiwedd y llyfr i’r rhai a hoffai fwy o fanylder. Ond hoffwn bwysleisio bod y llyfr yma yn hollol addas i leygwyr, ac mae’r awdur yn nodi y rhannau y gellir eu hosgoi gan ddarllenwyr sydd ddim am weld y manylion technegol.'
- Rhys Morris, Prifysgol Bryste

‘Llwyddodd Rowland Wynne i gyflwyno gwyddoniaeth nad sy’n hawdd ei deall mewn modd cwbl ddealladwy; gwelwn fawredd ysgolheictod Desin ond cyflwynir hynny mewn gwead cywrain ac onest â’i ddynoliaeth – ei gefndir gwerinol, Cymreig, capelog; ei berthynas ag eraill; ei lwyddiannau a’i siomedigaethau. Campwaith o destun hanesyddol a gwyddonol, caboledig a darllenadwy, a hynny yn ein mamiaith.’
– Hefin Jones, Y Traethodydd, Gorffennaf 2018

‘Portread cynnes a darllenadwy o wyddonydd atomig mwyaf Cymru – mae’r gyfrol yn dal cyffro’r bartneriaeth greadigol rhwng Williams a gwyddonwyr arloesol y cyfnod, megis Bragg, Bohr, Blackett ac eraill. Perl o lyfr.’
-Yr Athro Glyn O. Phillips, Prifysgol Glyndŵr

‘Roedd Evan James Williams yn arloeswr mewn dau faes – ffiseg fodern ac ymchwil gweithredol – sydd wedi dylanwadu’n enfawr ar ein byd ni heddiw. Mae’r gyfrol hon yn rhoi hanes y gŵr a’i waith o safbwynt Cymreig a rhyngwladol, gan ddangos yn eglur pam y dylem ei gofio fel un o fawrion y genedl.’
-Yr Athro Geraint Vaughan, Prifysgol Manceinion

'Evan James Williams yw un o'r gwyddonwyr mwyaf disglair a gynhyrchwyd gan ein cenedl erioed, ac mae’r llyfr godidog hwn yn gwneud cyfiawnder â'i yrfa mewn cyfanwaith sydd wedi’i gyfansoddi'n wych - fe all y lleygwr ddeall yn union ramant y wyddoniaeth a mwynhau'r straeon diddorol a ddisgrifir gan Rowaland Wynne.’
-Yr Athro Syr John Meurig Thomas, Cyn-Gyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol, a Chyn-Feistr Coleg San Pedr, Prifysgol Caergrawnt

‘E. J. Williams oedd un o wyddonwyr disgleiriaf Cymru a ddaeth yn enwog ar y llwyfan rhyngwladol am ei waith arloesol ym maes ffiseg gronynnau. Mae balchder mawr yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth mai yn yr Hen Goleg y gwnaeth Williams ei arbrofion trawsnewidiol, ac mae'r llyfr hwn yn gofnod arbennig o’i gyfraniad, ei ysbrydoliaeth a’i athrylith.’
-Yr Athro Andrew Evans, Prifysgol Aberystwyth

Cynnwys

Rhestr Luniau
Rhagair
Pennod 1Mae Gen’ I Freuddwyd
Pennod 2Siglo’r Seiliau
Pennod 3Doethuriaethau
Pennod 4Pererindota
Pennod 5Cyrraedd y Brig
Pennod 6Helgwn y Weilgi
Pennod 7Gwawr a Gweryd
Pennod 8Epilog
Llyfryddiaeth

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Rowland Wynne

Mae Rowland Wynne yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn ffiseg. Sbardunwyd ei ddiddordeb yn Evan James Williams gan ymweliad ag Archif Niels Bohr ym Mhrifysgol Copenhagen.

Darllen mwy