Gwasg Prifysgol Cymru / The University of Wales Press

Y Degawdau Cynnar (1922–1953) / The Founding Years (1922–1953)

Awdur(on) Llion Wigley

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): Welsh Interest, History

  • Hydref 2022 · 88 tudalen ·198x129mm

  • · Clawr Meddal - 9781837720170
  • · eLyfr - pdf - 9781837720187
  • · eLyfr - epub - 9781837720194

Am y llyfr

MYNEDIAD AGORED: Er mwyn darllen fersiwn ePDF o’r llyfr hwn am ddim, pwyswch y ddolen isod: https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781837720187_WEB.pdf

Mae’r gyfrol hon yn amlinellu ac egluro hanes sefydlu Gwasg Prifysgol Cymru ym 1922, a’r gwaith allweddol bwysig a gyflawnodd yn hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae’n cynnig darlun o gyfnod ffurfiannol yn hanes cyhoeddi a diwylliannol ehangach Cymru fodern, ac yn rhoi cipolwg ar waith amryw o ysgolheigion ac awduron mwyaf dylanwadol a blaenllaw’r genedl yn ystod y cyfnod hwn. Manylir ar y rhan allweddol y chwaraeodd llenorion a haneswyr enwog fel T. H. Parry Williams, W. J. Gruffydd ac R. T. Jenkins yng ngwaith Bwrdd y Wasg rhwng 1922 a 1953, a thrafodir rhai o’r prif weithiau a chyfresi a gyhoeddwyd dan enw’r Wasg yn ystod y blynyddoedd hyn. Ymhellach, rhoddir gwaith y Wasg yng nghyd-destun datblygiad moderniaeth yn rhyngwladol a chenedlaetholdeb Cymreig rhwng y rhyfeloedd byd.

Cyflwyno'r Awdur(on)