Hanes Cymry
Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg
Awdur(on) Simon Brooks
Iaith: Cymraeg
- Mehefin 2021 · 496 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781786836427
- · eLyfr - pdf - 9781786836434
- · eLyfr - epub - 9781786836441
Am y llyfr
Dyfyniadau
‘Â’i ddeallusrwydd dansherus, ei gyfeiriadaeth wyddoniadurol a’i ddadansoddi miniog, mae Simon Brooks yn torri drwy ystrydebu ffasiynol fel cyllell drwy fenyn. Perwyl y magnum opus arloesol hwn yw arddel ac annog y gymuned Gymraeg amlethnig. Amen ac amen i hwnna. Darllener. Ystyrier.’
-Cynog Dafis
‘Fel yr awgryma Simon Brooks yn y gyfrol allweddol yma, nid yw “amlddiwylliannedd” y Gymraeg yn cyfateb yn union i multiculturalism y Saesneg. Mewn cyfres o ddadansoddiadau llachar, mae Hanes Cymry yn archwilio amrywiaeth mewnol y Gymru Gymraeg ar draws y canrifoedd, tra hefyd yn dadlau dros hawl diwylliannau lleiafrifol i ddatblygu eu ffurfiau eu hunain ar amlddiwylliannedd.’
-Daniel G. Williams
Cynnwys
Rhestr Luniau
Rhagair
Diolchiadau
1.Cyflwyniad
2.Beth sy’n bod ar amlddiwylliannedd Eingl-Americanaidd unigolyddol?
3.Hanes Cymry – lleiafrifoedd ethnig yn yr archif Gymraeg
4.Amlddiwylliannedd Cymraeg
5.Hybridedd lleiafrifol
6.Pwy yw’r Cymry?
i.Pa mor amlethnig yw’r Fro Gymraeg wledig? Gweler Llŷn ac Eifionydd
ii.Ystyr y gair ‘Cymry’: llenorion Cymraeg o gefndir lleiafrifol ethnig
iii.Y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr: lleiafrif heb ei gydnabod
7.Mae ’na Wyddel yn y dre – dinasyddiaeth Gymraeg a thair ideoleg: rhyddfrydiaeth, sosialaeth a chenedlaetholdeb
8.Ydy’r Cymry’n ddu? – trefedigaethwyr a threfedigaethedig
9.Y Sipsiwn Cymreig – un o ddwy bobl frodorol y Fro Gymraeg
10.Diweddglo – brodorion amlethnig Ynys Prydain
Llyfryddiaeth
Nodiadau