Her a Hawl Cyfieithu Dramâu

Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière

Awdur(on) Rhianedd Jewell

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • Gorffennaf 2017 · 288 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786830944
  • · eLyfr - pdf - 9781786830951
  • · eLyfr - epub - 9781786830968

Am y llyfr

Dyma’r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri’r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Molière yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd. Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a’r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocâd hyn fel sail i’w waith cyfieithu. Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rôl y cyfieithydd ym myd y theatr – pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba graddau felly y mae i’r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.

Dyfyniadau

‘Cyn iddo arddel ei ffydd Gatholig neu ganfod ei lais fel gwleidydd a bardd a dramodydd, roedd Saunders Lewis eisoes yn gyfieithydd – a daliodd i drosi hyd at drothwy ei bedwar ugain oed. Dengys y gyfrol ddisglair hon pa mor ganolog oedd cydberthynas ieithoedd iddo – a pha mor allweddol y dylai hynny fod i’n dealltwriaeth ohono.’
-Dr T. Robin Chapman, Prifysgol Abersytwyth

‘Y mae Rhianedd Jewell wedi dwyn cyfieithiadau Saunders Lewis o ddramâu Molière a Beckett o gysgodion yr ymylon a’u gosod yn ddadlennol yn syth ar ganol theatr ei yrfa fel llenor ac fel deallusyn. Ar ôl trafod hanes cyfraniad pwysig cyfieithiadau ac addasiadau i ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a gwerthuso dyled drom Saunders i ddiwylliant Ffrainc, y mae’n ystyried holl oblygiadau cymhleth y grefft amwys o drosi cyn gorffen gyda dadansoddiadau trylwyr a threiddgar o Doctor ar Ei Waethaf ac Wrth Aros Godot. Dyma gyfrol arloesol sy’n chwyldroi ein hadnabyddiaeth o Saunders Lewis yr awdur.’
-Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe

‘Dyma astudiaeth dreiddgar o gyfieithiadau Saunders Lewis, sydd yr un pryd yn goleuo ei feddwl a’i waith yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, mae’n gyflwyniad difyr i astudiaethau cyfieithu – maes newydd yn y Gymraeg – a chyfraniad nodedig i hanes y ddrama yng Nghymru.’
-Ned Thomas

Cynnwys

Rhagymadrodd
1. Cyflwyniad
2. Datblygiad Cyfieithu Dramâu yng Nghymru
3. Saunders Lewis ac Ewrop
4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i'r Llwyfan
5. Cyfieithu'r Clasurol
6. Cyfieithu'r Abswrd
Casgliad

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Rhianedd Jewell

Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell, sy’n arbenigo ym maes astudiaethau cyfieithu. Mae hi’n uwch-ddarlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darllen mwy

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!