Llên yr Uchelwyr

Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525

Awdur(on) Dafydd Johnston

Iaith: Cymraeg

  • Ebrill 2014 · 512 tudalen ·234x156mm

  • · Clawr Meddal - 9781783160525
  • · eLyfr - pdf - 9781783160532
  • · eLyfr - epub - 9781783161379

Am y llyfr

Gwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed oedd uchafbwynt traddodiad barddol Cymraeg yr Oesoedd Canol. Dyma ailargraffiad y gyfrol gyntaf i gynnig darlun cynhwysfawr ac awdurdodol o lenyddiaeth y cyfnod hwnnw yn ei holl agweddau. Rhoddir ystyriaeth fanwl i rai o gewri'r cywydd megis Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi a Thudur Aled, a sonnir yn ogystal am lu o feirdd mawr a man a'r tai lle caent groeso ar eu teithiau clera ar hyd a lled y wlad. Dyfynnir llawer o gerddi difyr, rhai ohonynt yn haeddiannol enwog ac eraill sy'n derbyn sylw yma am y tro cyntaf. Trafodir rhychwant eang o farddoniaeth, yn fawl a marwnad urddasol, yn ganu gofyn ffraeth, yn ganu crefyddol dwys, yn broffwydoliaethau gwleidyddol, yn ganu serch ac yn ganu dychan deifiol. Rhoddir cyfrif hefyd am y rhyddiaith amrywiol sy'n ddrych i ddiwylliant cyfoethog y cyfnod.

Cynnwys

1 Y Cefndir Hanesyddol 2 Y Gyfundrefn Farddol 3 Parhad Traddodiad yr Awdl a'r Englyn 4 Y Cywydd 5 Dafydd ap Gwilym 6 Canu Serch y Cywyddwyr Cynnar 7 Canu Mawl y Cywyddwyr Cynnar 8 Y Canu Crefyddol 9 Beirdd y Bymthegfed Ganrif 10 Genres a Chonfensiynau 1: Y Canu Mawl 11 Genres a Chonfensiynau 2: Canu Serch y Bymthegfed Ganrif 12 Proffwydoliaeth a Phropaganda 13 Dychan ac Ymryson 14 Cyfnod y Tuduriaid 15 Rhyddiaith

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Dafydd Johnston

Yr Athro Dafydd Johnston yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth.

Darllen mwy

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!