Llunio Hanes

Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd

Awdur(on) Gethin Matthews,Meilyr Powel

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2022 · 168 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786838988
  • · eLyfr - pdf - 9781786838995
  • · eLyfr - epub - 9781786839008

Am y llyfr

MYNEDIAD AGORED: Er mwyn darllen fersiwn ePDF o’r llyfr hwn am ddim, pwyswch y ddolen isod:  https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781786838995.pdf

Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Gan ddwyn y teitl Llunio Hanes, mae’r gyfrol yn archwilio a chrynhoi’r gwahanol ffyrdd y mae haneswyr wedi ysgrifennu, ac yn parhau i ysgrifennu, hanes. Yn ei hanfod, dyma gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes – gyda’r nod o ymgynefino’r darllenydd ag ‘offer’ yr hanesydd, ac i esbonio’r fethodoleg y tu ôl i ddeongliadau hanesyddol. Mae’r awduron yn ein tywys ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Wrth archwilio hanes cenedlaethol, hanes Marcsaidd, hanes o’r gwaelod, hanes llafar, hanes menywod, hanes diwylliannol, ôl-strwythurol, y darostyngol a’r hollfydol, mae’r gyfrol yn ystyried sut y mae meysydd a disgyblaethau eraill yn dylanwadu ar grefft yr hanesydd.

Cynnwys

Rhestr Termau
Cyflwyniad - Beth yw ‘Hanes’? gan Meilyr Powel
Pennod 1 - O’r ‘Gwleidyddol’ i’r ‘Cymdeithasol’ ac i’r ‘Diwylliannol’ : Syrffio ar Donau Hanes dros y Degawdau gan Gethin Matthews
Pennod 2 - Hanes Cendlaethol gan Huw Pryce
Pennod 3 - Hanes Marcsaidd gan Doug Jones
Pennod 4 - Hanes o’r Gwaelod: Y Werin, y Gweithwyr, Menywod, a’r Darostyngol
gan Arddun H. Arwyn
Pennod 5 - Hanes ac Anthropoleg gan Iwan Morus
Pennod 6 - Ôl-strwythuraeth a’r Tro Diwylliannol: Rhywedd, Dwyreinioldeb ac Ôl-drefedigaethedd gan Marion Löffler
Epilog: Dyfodol Hanes gan Meilyr Powel
Llyfryddiaeth

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Gethin Matthews

Mae Gethin Matthews yn uwch-ddarlithydd yn Adran Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron, ym Mhrifysgol Abertawe.

Darllen mwy

Awdur(on): Meilyr Powel

Cwblhaodd Meilyr Powel ddoethuriaeth ar brofiad Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe 2014–18. Y mae’n gweithio i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Darllen mwy