Llwybrau Cenhedloedd

Cyd-destunoli'r Genhadaeth Gymreig i'r Tsalagi

Awdur(on) Jerry Hunter

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • Ebrill 2012 · 247 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9780708324714
  • · eLyfr - pdf - 9780708324721

Am y llyfr

Mae'r llyfr hwn yn cyd-destunoli cenhadaeth Evan Jones i'r Tsalagi (Cherokee), a hynny trwy graffu ar destunau perthnasol mewn tair iaith - y Saesneg, y Gymraeg a'r iaith Dsalagi. Dehonglir hefyd y modd y trafodid brodorion America ar dudalennau gwasg Gymraeg yr Unol Daleithiau. Awgrymir bod y berthynas rhwng y cenhadwr Cymreig hyn a'r genedl frodorol yn stryd ddwyffordd: os oedd y Cymro hwn yn dylanwadu ar y brodorion, roedd diwylliant a bydolwg y Tsalagi yn dylanwadu arno yntau hefyd. Wrth drafod y prosesau hyn, defnyddir y 'feirniadaeth frodorol' a arloesid yn ddiweddar gan ysgolheigion sy'n perthyn i nifer o genhedloedd brodorol America.

Dyfyniadau

"A wladychwyd y Cymry? Ynteu ai gwladychwyr oeddent? Ceir golwg newydd ar y pwnc llosg hwn yn y gyfrol arloesol a dadlennol hon, sy'n trafod rhan gymhleth a diddorol y Cymry (yn bennaf ym mherson Evan Jones) yn ffawd drist cenedl frodorol y Cherokee yn y Taleithiau. Dyma lyfr cyfoethog, cynnil a chytbwys sy'n ennyn parch o'r newydd at oreuon y genedl Anghydffufriol ac yn cyfannu'r darlun a gychwynwyd yn y clasur Wales in Kasia." Athro M. Wynn Thomas, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe "Wrth adrodd hanes hynod ddadlennol y cenhadon Evan Jones a Thomas Roberts ymhlith cenedl y Tsalagi (Cherokee), mae Jerry Hunter yn archwilio grymoedd diwylliannol, crefyddol a gwleidyddol yr 1820au a'r 1830au yn America. Mae'n cyflwyno rhai o syniadau canolog Astudiaethau Cenhedloedd Brodorol America i gynulleidfa Gymraeg, tra hefyd yn ein gorfodi i ail ystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau Cymreig heddiw: cenedlaetholdeb a chrefydd; iaith a diwylliant; cymhathiad diwylliannol a'r frwydr i gynnal traddodiadau neilltuol. Heb os, mae 'Llwybrau Cenhedloedd' yn gampwaith o astudiaeth gymharol." Dr. Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe

Cynnwys

Gair Ynghylch Gair Diolchiadau Prolog: 1838 RHAN I: Y GENHADAETH GYMREIG I'R TSALAGI 1. Dinadawosgi Cymreig: Cenhadaeth Thomas Roberts ac Evan Jones, 1821 - 5 2. Ayvwi, Llythrennedd a'r Yonega Cymreig: Cenhadaeth Evan Jones, 1825 - 39 RHAN II: GWASG GYMRAEG AMERICA A BRODORION Y CYFANDIR, 1838 - 42 3. O Gigyddion Fflorida i Ymerodraeth y Gorllewin Pell: Y Cyfaill o'r Hen Wlad a Brodorion America, 1838 - 42 4. Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o'r Hen Wlad a Llen y Madogwys 5. 'Gwnaeth y wlad gam mawr a'r Indiaid ac nid yw'r eglwys yn glir yn y peth hyn': Y Cenhadwr Americanaidd, Y Beread a'r Brodorion, 1840 - 2 RHAN III: DAU GYLCHGRAWN, DWY IAITH, UN GREFYDD 6. Tsalagi Atsinvsidv: Cenhadwr Llenyddol Evan Jones 7. Cymhlethdodau Huodledd: Y Seren Orllewinol, Brodorion America a Chenhadaeth Evan Jones

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Jerry Hunter

Mae'r Athro Jerry Hunter yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Mae wedi cyhoeddi nofelau i blant ac oedolion, ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn (2004), a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol (2010).

Darllen mwy