Nid Sianel Gyffredin Mohoni!

Hanes Sefydlu S4C

Awdur(on) Elain Price

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): Welsh Interest, History

Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • Gorffennaf 2016 · 336 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783168880
  • · eLyfr - pdf - 9781783168897
  • · eLyfr - epub - 9781783168903

Am y llyfr

Dyma’r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru – Sianel Pedwar Cymru – sy’n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau’r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu’n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio’r sialensiau, y llwyddiannau a’r methiannau fu’n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai’n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o’r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i’w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i’w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy’n ymddangos yn gynyddol ansicr.

Dyfyniadau

‘Ar sail ymchwil manwl a thrylwyr, cyfweliadau dadlennol a dehongliad sy’n dangos dealltwriaeth o ysbryd ac amgylchiadau’r cyfnod, mae Elain Price yn cyflwyno hanfod blynyddoedd cynnar cyffrous sefydlu S4C. Dyma gyfrol sy’n cyflwyno a dehongli hanes darlledu o safbwynt ymarferol yn erbyn cefndir gwleidyddol, economaidd a diwylliannol Cymru a’r iaith Gymraeg yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.’ - Euryn Ogwen Williams, cyn-Gyfarwyddwr Rhaglennu S4C

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Elain Price

Mae Dr Elain Price yn Ddarlithydd ym maes Astudiaethau’r Cyfryngau yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

Darllen mwy