Rhoi Cymru'n Gyntaf: Cyfrol 1
Syniadaeth Plaid Cymru
Awdur(on) Richard Wyn Jones
Iaith: Cymraeg
- Medi 2007 · 240 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9780708317563
Am y llyfr
Mae hon yn gyfrol wreiddiol, sy'n dyfnhau ein dealltwriaeth o brif arweinwyr Plaid Cymru a syniadaeth y mudiad yn gyffredinol. Mae'n trafod hanes y Blaid o'i chychwyn hyd at heddiw mewn ffordd drylwyr a manwl. Er yr ymdrinnir â syniadau astrus ar brydiau, mae'r gyfrol wedi ei hysgrifennu mewn dull apelgar.
Dyfyniadau
'Awdurdodol, trwyadl, di-dderbyn-wyneb, angerddol – a chwbl afaelgar.' - Cynog Dafis
'Dyma gyfrol sy'n gyfuniad o ddadansoddi eglur ar syniadaeth cenedlaetholdeb yn gyffredinol a dehongli meistrolgar ar syniadaeth wleidyddol prif arweinwyr Plaid Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n gynhwysfawr, yn awdurdodol, a chyffrous o bryfoclyd mewn mannau. Ni all y sawl a'i darlleno beidio ag ymateb yn fywiog iddi. Bydd yn arweiniad diogel i'r sawl sy'n anghyfarwydd â'r maes; bydd hefyd yn agoriad llygaid i sawl 'hen law'.' - Dr Meredydd Evans