Robert Recorde

Tudor Scholar and Mathematician

Awdur(on) Gordon Roberts

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Welsh Interest, Science, History

Cyfres: Scientists of Wales

  • Mai 2016 · 192 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Caled - 9781783168293
  • · eLyfr - pdf - 9781783168309
  • · eLyfr - epub - 9781783168316
  • · Clawr Meddal - 9781783168545

Mae’r cofiant gafaelgar hwn yn adrodd hanes llawn un o ffigurau mwyaf enigmatig Lloegr Duduraidd. Cymro oedd Robert Recorde a anwyd yn Ninbych-y-pysgod oddeutu 1512, a chafodd ei addysg yn Rhydychen a Chaergrawnt. Mae’r llyfr hwn, sy’n fywgraffiad manwl o’r ysgolhaig Tuduraidd, yn bwrw golwg ar agweddau niferus ar ei yrfa ryfeddol o amrywiol a’i fywyd, oedd yn un trasig yn y pen draw. Mae’n cyflwyno darlun cyfoethog, manwl a chyflawn o Robert Recorde y dyn, y diwinydd a’r academydd prifysgol, y meddyg, y mathemategydd a’r seryddwr, yr hynafiaethydd, ac awdur gwerslyfrau hynod lwyddiannus. Arweiniodd penodiadau gan y goron at wrthdaro rhwng Recorde ag Iarll Penfro, cynllwyniwr o fri, gan arwain maes o law at ddod benben â'r Frenhines Mari I. Fel gŵr deallusol oedd ar goll yn llwyr ym myd cynllwynio gwleidyddol, ac at ei glustiau mewn cythrwfl crefyddol, yn y pen draw ildiodd Recorde i’r we o beryglon a gaeodd amdano nad oedd dianc rhagddi.

Author’s Forward and Acknowledgments
Prologue
Chapter 01 – Child of Tenby
Chapter 02 – Oxford Scholar
Chapter 03 – Cambridge Savant
Chapter 04 – Such is Your Authority
Chapter 05 – St Paul’s Churchyard
Chapter 06 – Doctor Recorde
Chapter 07 – Antiquarian and Mathematician
Chapter 08 – No Mean Divine
Chapter 09 – Comptroller of the King’s Mints
Chapter 10 – The Muscovy Company
Chapter 11 – This Talk Delights Me Marvellously
Chapter 12 – Pedagogue and Poet
Chapter 13 – Surveyor of the Mines and Monies
Chapter 14 – Nemesis
Chapter 15 – A Heart So Oppressed
Chapter 16 – An Unquiet Mind
Chapter 17 – One of His Elect in Glory
Epilogue

Awdur(on): Gordon Roberts

Mae Gordon Roberts yn ysgolhaig annibynnol; yn ôl ei alwedigaeth mae’n beiriannydd awyrennau, mae wedi darllen yn eang yn y gwyddorau, technoleg, mathemateg a pheirianneg. Graddiodd o’r Brifysgol Agored.

Darllen mwy