The Eisteddfod
Awdur(on) Hywel Teifi Edwards
Iaith: Saesneg
Dosbarthiad(au): Welsh Interest
- Gorffennaf 2016 · 95 tudalen ·198x129mm
- · Clawr Meddal - 9781783169122
- · eLyfr - pdf - 9781783169139
- · eLyfr - epub - 9781783169146
Am y llyfr
Mae The Eisteddfod, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1990 fel rhan o gyfres Writers of Wales Gwasg Prifysgol Cymru, yn cyflwyno hanes yr Eisteddfod Genedlaethol i gynulleidfa Saesneg ei hiaith. Roedd yr awdur, yr hanesydd a’r darlledwr, Hywel Teifi Edwards (1934-2010) yn awdurdod blaenllaw ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, sef digwyddiad diwylliannol blynyddol Cymru ac un o wyliau mwyaf a hynaf Ewrop. Mae’r gyfrol gryno, ffraeth ac apelgar hon yn rhoi trosolwg o’r hanes hwnnw, o’r Eisteddfod gyntaf ym 1176 i Eisteddfod gyfoes y 1980au. Mae’n amlinellu’r gwahanol gystadlaethau llenyddol a gynhelir yn flynyddol yn yr Eisteddfod, ac yn tynnu sylw at rai o enillwyr mwyaf cofiadwy a phwysicaf gwobrau megis y Gadair a’r Goron.