The History and Architecture of Cardiff Civic Centre

Black Gold, White City

Awdur(on): John B. Hilling

Dosbarthiad(au): Hanes Diddordeb Cymru

Cyfres: Architecture of Wales

  • Awst 2021 · tudalen · mm

  • · -
  • · -
  • · -
  • · -

Am y llyfr

Mae canolfan ddinesig Caerdydd ym Mharc Cathays, sydd wedi’i disgrifio fel canolfan ddinesig orau Ynysoedd Prydain, yn gasgliad trawiadol o adeiladau cyhoeddus a gynlluniwyd ac a ddechreuwyd gyda chyfoeth a grëwyd yn bennaf gan y diwydiant glo ym maes glo de Cymru. Mae’r llyfr hwn yn trafod esblygiad cynharach y safle yng Nghaerdydd fel parc preifat yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y teulu Bute hynod gyfoethog, a brwydr y fwrdeistref i gael tir ar gyfer adeiladau cyhoeddus a datblygiad y parc yn yr ugeinfed ganrif, i ddatblygu canolfan ddinesig fwyaf ysblennydd Prydain. Mae’r holl adeiladau, cofebion a cherfluniau yn y parc yn cael eu disgrifio’n llawn a’u darlunio yn y llyfr hwn, sy’n cynnwys mapiau, cynlluniau a ffotograffau. The History and Architecture of Cardiff Civic Centre yw’r cyntaf yn y gyfres Architecture of Wales, a gyhoeddir ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru.

Cynnwys

1A Small, Sleepy Town in the Shadow of a Castle
2 Black Gold
3 A Gentleman’s Park
4 A Battle for Sites and Minds
5 Negotiations and Diversions
6 Plans and Petitions
7A View of the Civic Centre: Its Layout, Appearance and Open Spaces
8 Development of the Civic Centre Before the First World War: Buildings and Monuments
9 Development of the Civic Centre Between the Wars: Buildings and Monuments
10Development of the Civic Centre After the Second World War: Buildings and Monuments
11 Cardiff’s Civic Centre in Context
12Conclusion

Cyflwyno'r Awdur(on)

John B. Hilling

Mae John B. Hilling yn ymarferydd a sylwebydd sydd wedi ennill ei blwyf ym maes pensaernïaeth hanesyddol. Ar ôl hyfforddi fel pensaer yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru ac fel cynllunydd tref yn Llundain, mae ei yrfa wedi cwmpasu cynllunio trefol a gwledig, tai awdurdodau lleol, adeiladau prifysgol ac amgueddfa ac adfer henebion.

Darllen mwy