Thomas Charles o'r Bala

Awdur(on) D. Densil Morgan

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2014 ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781783160686
  • · eLyfr - pdf - 9781783160693
  • · eLyfr - epub - 9781783162246

Am y llyfr

Dyma gyfrol gyfansawdd sy’n trafod cyfraniad Thomas Charles o’r Bala (1755-1814) i fywyd Cymru ar achlysur daucanmlwyddiant ei farw. Yn ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf gan ddeuddeg arbenigwr yn y maes, mae’n rhychwantu’r holl feysydd bu Charles yn ymwneud â nhw: addysg, crefydd, llythrennedd, ysgolheictod, geiriaduraeth a diwylliant. Sonnir hefyd am waddol artistig Thomas Charles, y cysylltiad a fu rhyngddo â’r emynyddes Ann Griffiths ac â Mari Jones a gerddodd i’r Bala i gyrchu Beibl ganddo, ei berthynas â chyfoeswyr fel Thomas Jones o Ddinbych, a’i le yn natblygiadau gwleidyddol ei gyfnod. Un o benseiri’r Gymru fodern oedd Thomas Charles ac ef, yn ôl Derec Llwyd Morgan, oedd ‘Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg’. Dyma gyfrol a fydd wrth fodd calon haneswyr diwylliant a beirniaid llên, a’r gwaith manylaf ar Thomas Charles i’w gyhoeddi ers canrif a mwy.

Cynnwys

1 Gyrfa Thomas Charles yn ei chyd-destun hanesyddol ERYN MANT WHITE 2 Thomas Charles, llythrennedd a'r Ysgol Sul HUW JOHN HUGHES 3 Thomas Charles a sefydlu Cymdeithas y Beibl R. WATCYN JAMES 4 Thomas Charles a'r Ysgrythur GERAINT LLOYD 5 'Nid baich ond y baich o bechod': Geiriadur Ysgrythyrol Thomas Charles DAFYDD JOHNSTON 6 Thomas Charles a gwleidyddiaeth y Methodistiaid MARION LOFFLER 7 Gwaddol artistig Thomas Charles MARTIN O'KANE 8 Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones E. WYN JAMES 9 'Pob peth yn cydweithio er daioni': Cofiant - Thomas Charles (1816) LLION PRYDERI ROBERTS 10 Thomas Charles a Thomas Jones o Ddinbych (1756 - 1820) ANDRAS IAGO 11 Thomas Charles a'r Bala D. DENSIL MORGAN 12 Thomas Charles: 'Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg' DEREC LLWYD MORGAN

Cyflwyno'r Awdur(on)

Mae D. Densil Morgan yn Athro yn yr Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Darllen mwy