Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Golygydd(ion) John Morgan-Guy

Iaith: Cymraeg

  • Gorffennaf 2022 · 224 tudalen ·246x189mm

  • · Clawr Caled - 9781786839251
  • · eLyfr - pdf - 9781786839268
  • · eLyfr - epub - 9781786839275

Am y llyfr

Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn wreiddiol yn 1822 dan yr enw Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru. Yn ystod dau gan mlynedd ei hanes, mae wedi derbyn nifer o lawysgrifau hynod a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau llawn darluniau, ac enghreifftiau anarferol o daflenni i gyfnodolion – y rhan fwyaf drwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, yn cynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi. Cedwir y casgliad heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, yn adnodd cyfoethog i ysgolheigion ac ymchwilwyr ledled y byd.
Mae’r gyfrol lawn darluniau hon yn cyflwyno detholiad o blith y miloedd o drysorau sydd yn y casgliad, yn rhychwantu dros saith can mlynedd. Ceir ysgrif fer i gyd-fynd â phob darlun, pob un wedi’i hysgrifennu gan ysgolhaig sydd â gwybodaeth a gwerthfawrogiad dihafal o’r gwaith dan sylw. Bydd y gyfrol o ddiddordeb eang, ac yn dyst i’r cyfoeth a geir yn yr hyn a alwyd unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru’.

Cynnwys

Cynnwys
Cydnabyddiaethau
Cyfranwyr
1Rhagymadrodd: Hanes y Coleg a’i Lyfrgell
2Siarter Brenhinol 1828
3Charles Robert Cockerell, Pensaer Coleg Dewi Sant
4Darlun David Cox o Goleg Dewi Sant
5Pedr o Capua a Distinctiones theologicae
6Beibl Llanbedr Pont Steffan
7Llyfr Oriau Boddam
8Giovanni Boccaccio a Genealogia deorum gentilium
9Jacobus a Voragine a The Golden Legend (Legenda auria)
10Llyfr Offeren Schoffer, 1499
11Llyfr Offeren ‘Caersallog’ Hopyl, 1511
12Conrad Gessner a’r Historia animalium
13Abraham Ortelius a Theatrum orbis terrarum
14Walter Ralegh a The History of the World
15Gerhard Mercator a’r Atlas
16Nehemiah Grew a The Anatomy of Plants
17George Hickes yr Annhyngwr a Llawysgrif Llanbedr Pont Steffan T512a
18‘Isaac Bickerstaff’ a Predictions for the Year 1708
19Rhifyn ‘Coll’ Review Daniel Defoe
20Maria Sibylla Merian a Der Rupsen begin, voedzel, en wonderbaare verandering
21Dychan a Hiwmor yn Bowdler T269
22William Chambers a Desseins des edifices, meubles, habits, machines, et ustenciles des chinois
23Llyfr Lòg HMS Elizabeth, 1759–61
24Thomas Pennant a The British Zoology
25Siartiau, Cynlluniau a Golygfeydd Alexander Dalrymple
26Mordeithiau o’r Iseldiroedd i’r Môr Tawel
27Sydney Parkinson ac A journal of a voyage to the South Seas
28Jean-Nicolas Jadelot a Cours complet d’anatomie
29Robert Adam a Ruins of the Palace of the Emperor Diocletian
30L’ami de l’adolescence, Arnaud Berquin
31John White a Journal of a Voyage to New South Wales
32William Blake a gwaith darlunio The Complaint, and the Consolation gan Edward Young
33Robert John Thornton ac A New Illustration of the Sexual System of Linnæus
34William Alexander ac The Costume of China
35Hannah More a Cœlebs in Search of a Wife
36John Smeaton ac A Narrative of the Building and a Description of the Construction of the Edystone Lighthouse
37Edward Pugh a Cambria depicta
38John Ross ac A voyage of discovery
39John Frederick Lewis a Lewis’s Sketches and Drawings of the Alhambra
40John C. Bourne a Drawings of the London and Birmingham Railway
41John Richard Coke Smyth a Sketches in the Canadas
42Epilog: Dyfodol y Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfryddiaeth
Mynegai

Cyflwyno'r Golygydd(ion)