Y Gyfraith yn ein Llên

Awdur(on) R. Gwynedd Parry

Iaith: Cymraeg

  • Mehefin 2019 · 304 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786834270
  • · eLyfr - pdf - 9781786834287
  • · eLyfr - epub - 9781786834294

Am y llyfr

Ar hyd y canrifoedd, bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.

Dyfyniadau

‘Cyfrol ddiddorol a dysgedig, sy’n dangos pwysigrwydd dealltwriaeth o’r gyfraith wrth ddarllen elfennau o’n llenyddiaeth fel cenedl – ac hefyd bwysigrwydd gwybodaeth o’n llenyddiaeth, yn enwedig ein barddoniaeth, er mwyn cyrraedd gwir ddealltwriaeth o’n cyfraith yn ei chyd-destun cymdeithasol. Mae’r gwaith yn llunio ac yn creu maes ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar Gymru a’r Gymraeg.’
-Yr Athro Thomas Glyn Watkin CF

‘Mae’r gyfrol gyfoethog hon yn astudiaeth drylwyr a hynod ddiddorol o’r berthynas gymhleth ac amlochrog rhwng y byd llenyddol a byd y gyfraith, rhwng beirdd a barnwyr, rhwng awduron ac ynadon. Yn ogystal â bod yn arolwg llenyddol, mae’r llyfr hefyd yn gofnod hanesyddol a chymdeithasol gwerthfawr. Gan gofio fod gan y Cymry eu cyfreithiau eu hunain unwaith, cyn gorfod derbyn deddfau’r gorchfygwr estron, mae brwydr cenedl i gadw’i hunaniaeth yn rhedeg fel gwe drwy’r gwaith. Ac ar ben popeth, mae’n llyfr darllenadwy iawn.’
-Yr Athro Alan Llwyd

'Mae testun y gyfrol hon yn hollol arloesol ac yn creu maes ymchwil hollol newydd a chyffrous a fydd yn bendant yn ysgogi gwaith ymchwil pellach mewn nifer o gyfeiriadau. Mae'r awdur dysgedig yn honni wrthym ar ddechrau'r daith mai 'pererinion ar siwrnai ddiddiwedd tuag at berffeithrwydd anghyraeddadwy yw ysgolheigion ac ymarferwyr y gyfraith fel ei gilydd'. Thema'r gyfrol gyfoethog hon yw'r ffordd y bu'r gyfraith yn annog ac yn ysbrydoli ein beirdd a'n llenorion drwy'r canrifoedd o'r oesoedd canol cynnar hyd at y dwthwn hwn. Un o'r prif themâu y trafodir mor drylwyr yma yw swyddogaeth y gyfraith o fewn ein hunaniaeth genedlaethol drwy gydol nifer fawr o gyfnodau hanesyddol, a threfnir y deunydd mewn dull cronolegol o glawr i glawr, gan gychwyn gydag Oes ein Tywysogion brodorol hyd at gyfnod yr ugeinfed ganrif. Ac mae'r astudiaeth ar ei hyd yn amlwg yn seiliedig ar ffrwyth ymchwil manwl a gofalus odiaeth fel yr adlewyrchir yn y llyfryddiaeth lawn a ddarperir ar ein cyfer o fewn y gyfrol (gweler tt. 283-302).'
- Dr J. Graham Jones, Y Cymro

'Mae hon yn gyfrol arloesol, yn gyntaf peth, am ei bod wedi ei llunio gan arbenigwr yn y gyfraith... Pennaf hynodrwydd yr astudiaeth yw'r cynfas panoramig sy'n amlygu yn gampus pa mor ddadlennol yw'r deunydd crai a pha mor ddihysbydd yw'r posibiliadau wrth ddynesu ato o gyfeiriad disgyblaeth arall. Cynigir sylwadau craff a manwl ar gerddi dethol o wahanol gyfnodau ac mae'r drafodaeth ar gywydd marwnad Dafydd ab Edmwnd i'r telynor Siôn Eos, a grogwyd wedi iddo ladd dyn arall yn ddamweiniol, yn enghraifft wiw o'r goleuni newydd a chyffrous y gellir ei gynnig o ddadansoddi darn o lenyddiaeth o berspectif cyfreithiol.'
– Adolygiad A. Cynfael Lake yn rhifyn Chwefror 2020 Barn

'Ni fynnaf orffen hyn o adolygiad heb ddatgan fy rhyfeddod at adnabyddiaeth dda'r awdur o hanes ein llên ar ei hyd. Dyma gyfreithiwr o academydd sydd hefyd yn hanesydd llên.'
-Derec Llwyd Morgan, O’r Pedwar Gwynt Gwanwyn 2020

Cynnwys

Bywgraffiad
Rhagair
Byrfoddau
‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod y Genre
‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion
‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith
‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr
‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn
‘Rhag gwŷr y gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt
‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid
‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb
‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest
Crynhoi
Llyfryddiaeth
Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): R. Gwynedd Parry

Mae R. Gwynedd Parry yn academydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010 cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.

Darllen mwy

-
+

SÊL GWANWYN

Manteisiwch ar 70% oddi ar dros 300 o'n llyfrau!