Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’
Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990
Awdur(on) Lisa Sheppard
Iaith: Cymraeg
Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
- Mehefin 2018 · 256 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781786831972
- · eLyfr - pdf - 9781786831989
- · eLyfr - epub - 9781786831996
Am y llyfr
Dyfyniadau
'Mae byw a bod mewn cymdeithas ddwyieithog yn ehangu'r meddwl mewn mwy nag un modd yn ôl y gyfrol hon, sy'n argyhoeddi; mae'n creu dealltwriaeth o amrywioldeb, a gofod lle gall cymysgrywiaeth cymdeithasol ffynnu.'
– Athro Jane Aaron, Rhifyn Haf 2018 O’r Pedwar Gwynt
‘Dyma feirniadaeth lenyddol ar ei gorau – yn heriol a phryfoclyd ac yn gwbl berthnasol i’r byd sydd ohoni. Yn wyneb y cynnwrf gwleidyddol a’r pryderon presennol ynghylch Prydeindod a mewnfudo, mae’r gyfrol arloesol hon yn gofyn inni ailystyried pwy ydym “ni” a “nhw” (neu’r “hunan” a’r “arall”) drwy archwilio’r modd y mae ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes yn cynnig gofod amgen i fynegi llithrigrwydd a chymhlethdod hunaniaethau diwylliannol Cymru.’
-Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd
‘Mae gobaith cyffrous yn ymdreiddio trwy’r gyfrol bwysig hon, sef y gobaith bod y diwylliant Cymreig, fel yr amlygir ef mewn llên gyfoes Saesneg a Chymraeg, yn cynnig ffordd o feddwl sy’n arwain at dderbyn a chofleidio hybridedd ac amlddiwylliannedd – a hynny nid serch ond oherwydd ei fod yn ddiwylliant dwyieithog. Neges amserol iawn.’
-Yr Athro Jane Aaron, Prifysgol De Cymru
‘Mae’r astudiaeth hon mor amserol ag yw hi’n arloesol, am ei bod yn trin testun a ddaeth yn bwnc llosg yn sgil Brexit, sef amlddiwylliannedd. Gwlad gymysgryw yw Cymru bellach, fel y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin, a dengys Lisa Sheppard y modd y mae nifer o’n nofelau diweddaraf, yn y Gymraeg a’r Saesneg, wedi dyfeisio dulliau amrywiol, creadigol a chyffrous i grisialu’r realiti cymhleth newydd hwn.’
-Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe
‘Yn nyddiau Brexit a chymaint o’r drafodaeth gyhoeddus ynghylch mewnfudo ac amlddiwylliannedd o natur mor adweithiol ac amddiffynnol, roedd darllen y gyfrol yn brofiad i’w groesawu. Diolch am ymdriniaeth mor amserol ac aeddfed â hon â’r fath themâu cyfredol a’r modd yr aeth awduron rhyddiaith yn nwy lenyddiaeth Cymru ati i’w harchwilio!’
-Yr Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor