Os hoffech ddefnyddio defnydd o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni

Cliciwch i lawrlwytho’r ffurflen gais:

Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol, os oes diddordeb gennych mewn hawliau cyfieithu ar gyfer unrhyw un o’n llyfrau: chris.richards@press.wales.ac.uk 

Oherwydd natur sensitif a manwl o’r gwaith hwn, gofynnwn eich bod yn caniatáu 3-4 wythnos ar gyfer eich ceisiadau. Diolch i chi am eich amynedd.

Noder os hoffech ail gynhyrchu delweddau, ffotograffau neu fapiau, mae’n annhebygol y bydd awdur y llyfr yn berchen ar yr hawlfraint, felly byddai GPC wedi ceisio caniatâd i ail gynhyrchu’r ddelwedd, ffotograff neu fap gan ddeiliad yr hawlfraint/ ystâd artistig/ amgueddfa, felly bydd angen cyfeirio unrhyw geisiadau am ail ddefnyddio i ddeiliad yr hawlfraint/ ystâd artistig/ amgueddfa, ac nid i GPC.


Delio Teg

Ym Mehefin 2014, bydd rhai mân newidiadau yn cael eu gweithredu i’r eithriadau hawlfraint a gynhwysir o fewn deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn Neddf Hawlfraint, Cynlluniau a Phatentau 1988.

Mae’r gyfraith yn newid er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu dyfynnu o weithiau eraill, cyn belled â bod hynny’n rhesymol a theg (‘delio teg’). Gall hyn fod yn berthnasol i ymchwilwyr sydd eisiau dyfynnu elfennau o weithiau o dan hawlfraint er mwyn cefnogi dadl neu gyfleu pwynt.

Golyga hyn bod y defnydd o ddeunydd yn cael ei ganiatáu ar gyfer y pwrpas o ddyfynnu, cyn belled â bod y deunydd sy’n cael ei ddyfynnu o fewn ‘graddau teg’ (h.y. nifer rhesymol o eiriau, na fydd yn cymryd lle gwerthiant masnachol). Bydd hyn yn caniatáu dyfyniadau byr sy’n angenrheidiol a pherthnasol mewn papur academaidd neu bennod, ond nid yw’n caniatáu atgynhyrchu darn hir o waith.

Bydd yr hyn sy’n gyfystyr â delio teg yn fater o ffaith, graddau a barn ym mhob achos unigol – nodwch nad oes diffiniad statudol o ddelio teg. Y cwestiwn i’w ofyn yw sut fyddai person teg ag onest yn delio â’r gwaith.

Er nad oes yna ddiffiniad statudol, mae’r pwyntiau canlynol wedi cael eu cynnwys mewn dehongliad bras o ddelio teg:

  • Darn unigol di-dor o ryddiaith sy’n llai na 400 gair
  • Cyfres o ddarnau o’r un gwaith rhyddiaith lan at gyfanswm o 800 gair, lle nad oes unrhyw ddarn unigol yn hirach na 300 gair
  • Darn o farddoniaeth o 40 llinell neu gyfres o ddarnau sy’n dod i gyfanswm o 40 llinell, cyn belled â nad yw hynny’n gyfystyr â dros 25% o’r gerdd gyfan.

Ond nodwch nad yw’r dehongliad hwn yn cael ei ddefnyddio gan bob cyhoeddwr neu berchennog hawlfraint. Mae llawer o gyhoeddwyr yn cynnwys gwybodaeth ar dudalennau caniatâd eu gwefan ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ystyried i fod yn ddelio teg, felly mae’n rhaid darllen y rhain. Nodwch hefyd fod gan lawer o awduron a beirdd llwyddiannus gyhoeddwyr gwahanol yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau  – dylid sicrhau caniatâd lle bo’r angen oddi wrth y ddau gyhoeddwr mewn achosion o’r fath.

Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig yn unol â delio teg, cysylltwch â’r Adran Gomisiynu.