Yn 2022, mae Gwasg Prifysgol Cymru (GPC) yn dathlu ei Chanmlwyddiant, gan nodi 100 mlynedd ers sefydlu cyhoeddwr academaidd cenedlaethol Cymru, Gwasg Prifysgol â pharch rhyngwladol a thŷ cyhoeddi hynaf Cymru.

Rwyf i a’r tîm wedi cymryd y cyfle i ystyried y ~4000 o lyfrau a chyfnodolion mae’r Wasg wedi’i chyhoeddi yn ystod ein canrif gyntaf a’r awduron anhygoel sydd wedi dod â’u gwaith atom o Gymru a thu hwnt.

Treuliodd ein Uwch Olygydd Comisiynu a’r academydd cyhoeddedig, Llion Wigley, sawl mis rhwng cyfnodau clo 2021 yn lloffa drwy goffrau’r Wasg, yn ymchwilio i’r hanes y Wasg a’i sefydlu gan Brifysgol Cymru. Cawsom ein cyfareddu yn darllen y straeon am y cyfnod ac am yr arloeswyr a sefydlodd GPC, ac a osododd yr egwyddorion sylfaenol sy’n ein llywio hyd heddiw. Hoffwn eich gwahodd i ddarllen hanes y Wasg pan fyddwn yn ei rannu’n ddiweddarach eleni.

I ddathlu ein Canmlwyddiant, trwy gydol 2022 byddwn yn tynnu sylw at rai o’r cyhoeddiadau a’r cyfresi allweddol sydd wedi cyfrannu at stôr trysorau’r Wasg, gan gynnwys cyhoeddiadau Astudiaethau Cymreig yn Gymraeg a Saesneg; yr amrywiaeth eang o feysydd pwnc y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol rydym yn arbenigo ynddynt; a gweithiau nodedig fel Geiriadur yr Academi ac unig Wyddoniadur Cymru i’w gyhoeddi erioed.

Rydym ni’n cyhoeddi dau gyhoeddiad dathliadol i nodi ein canmlwyddiant; The History of Wales in 12 Poems gan M. Wynn Thomas a Dychmygu Iaith gan Mererid Hopwood; yn ail-rannu erthyglau cyntaf cyfnodolion y Wasg, yn ogystal â chynnal digwyddiad arbennig y Canmlwyddiant yn y Senedd, a digwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli a’r Eisteddfod Genedlaethol dros yr haf.

Byddwn hefyd yn gwneud cyhoeddiad arbennig iawn yn ystod blwyddyn y Canmlwyddiant – lansio gwasgnod newydd sbon i wasanaethu darllenwyr masnach (ffeithiol). Bydd y gwasgnod yn cynnig straeon cyfareddol a difyr, wedi’u hanelu at gynulleidfa fasnach fyd-eang, gyda’n safbwynt a’n naws penodol Cymreig ni. Cyhoeddir y llyfrau cyntaf eleni, gyda newyddion a diweddariadau yn dilyn dros y misoedd nesaf cyn i ni lansio’n ffurfiol yn yr hydref.

Felly mae tîm y Wasg yn dechrau blwyddyn ein Canmlwyddiant â balchder a chyffro, wrth i ni weithio’n frwd ar gynlluniau twf y dyfodol. Dewch yn ôl i ddarllen mwy ar ein gwefan, a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am newyddion trwy gydol y flwyddyn.

Diolch am ddarllen a chefnogi’r Wasg yn ein canrif gyntaf; a phob dymuniad da i Ganmlwyddiant y Wasg a thu hwnt!

Natalie Williams,
Cyfarwyddwraig, Gwasg Prifysgol Cymru