Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Cymru

Cymeradwywyd Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig Prifysgol Cymru gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 27 Gorffennaf 2005. Y mae’r ddogfen hon yn cynnwys manylion ar y camau hynny y mae’r Brifysgol wedi ymroi i’w cymryd i weithredu’r anghenion a osodir yn Neddf yr Iaith Gymraeg megis “cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru”.

Os hoffech dderbyn copi o’r Cynllun cysylltwch â Swyddfa’r Is-Ganghellor| yng Nghofrestrfa’r Brifysgol os gwelwch yn dda.

Datganiad

Mae Prifysgol Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Brifysgol yn rhoi’r egwyddor honno ar waith wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.

Mae’r Brifysgol yn cymeradwyo’n gynnes ac yn cefnogi’r egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae wedi ymrwymo i’r datganiad canlynol o bolisi dwyieithrwydd:
1. Mae Prifysgol Cymru wedi ymrwymo i anghenion diwylliannol Cymru (yn ogystal â’i hanghenion addysgol ac economaidd). Fel y cyfryw, ac fel un o sefydliadau cenedlaethol blaenllaw Cymru, mae’r Brifysgol yn derbyn bod ganddi gyfrifoldeb arbennig dros feithrin a hybu’r Gymraeg.

2. Mae i’r Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal fel ieithoedd swyddogol y Brifysgol. Mae unrhyw weithred, ysgrifen neu unrhyw beth a wneir yn swyddogol gan yr awdurdod priodol yn enw ac ar ran y Brifysgol yn ddilys ac yn effeithiol p’un ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg y’i mynegir.

3. Os rhoir peth blaenoriaeth i un iaith mewn materion ffurfiol, ni ddylai hynny arwyddocáu unrhyw awgrym o sarhad i’r iaith arall. Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall rhoi’r fath flaenoriaeth i’r Gymraeg ar adegau gynnal a chynorthwyo’r iaith mewn dulliau nad oes eu hangen ar yr iaith Saesneg.

4. O fewn y polisi cyffredinol hwn, mae’r Brifysgol yn ceisio: sicrhau cyfathrebu effeithiol ymhlith ei haelodau ei hun a rhyngddynt hwy a’u cysylltiadau y tu allan i’r Brifysgol; creu’r amodau lle gall holl aelodau’r Brifysgol a’u cysylltiadau allanol deimlo’n gartrefol yn eu dewis iaith; a hybu dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y Brifysgol a thrwy Gymru gyfan.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i’r amcanion bras a ganlyn ar gyfer y polisi a’r ddarpariaeth ynglŷn â gweinyddiaeth ddwyieithog yn y Brifysgol:

  • fel prifysgol genedlaethol Cymru, bydd gan Brifysgol Cymru ran flaenllaw yn y gwaith o hybu a datblygu’r Gymraeg yng Nghymru – bydd hefyd yn rhoi arweiniad i eraill;
  • bydd yn anelu at gynnig gwasanaeth gweinyddol cwbl ddwyieithog i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd; a
  • bydd yn ceisio symud cam wrth gam tuag at y sefyllfa honno drwy bennu iddi ei hun dargedau realistig y gellir eu cyrraedd mewn cyfnod rhesymol o amser.