Datganiad Preifatrwydd y Brifysgol


Gwybodaeth Bersonol

Dyma wefan Gwasg Prifysgol Cymru. Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac yn gwbl ymrwymedig i drin y wybodaeth a gasglwn gennych chi mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Mae’r holl ddata yn cael ei storio a’i phrosesu yn unol â’r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol ar 25 Mai 2018.

Nid yw Prifysgol Cymru yn dal nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol ddiangen am unigolion. Efallai y bydd angen i ni ddal a phrosesu’ch data pan y byddwch yn:
• dewis rhoi manylion personol i ni yn wirfoddol drwy ebost neu drwy ddewis yn benodol i dderbyn ein Cylchlythyr a / neu gyfathrebiadau marchnata eraill.
• holi neu archebu llyfrau neu nwyddau eraill o Wasg Prifysgol Cymru (linc) neu swyddfeydd eraill Prifysgol Cymru

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ddata personol i gyrff y tu allan i Sefydliadau’r Brifysgol nac i unrhyw unigolion oni bai bod hynny’n hanfodol i gwblhau archeb am nwyddau a gwasanaethau.


Cwcis

Bydd Prifysgol Cymru yn anfon cwcis o’r wefan hon er mwyn cadw cyflwr rhwng y tudalennau, megis cydraniad sgrin eich monitor neu ddewis iaith yn unig ac nid yw’n eu defnyddio i gasglu gwybodaeth bersonol. Mae’r Brifysgol yn monitro cyfeiriadau IP ymwelwyr i asesu pa dudalennau yw’r mwyaf poblogaidd yn unig. Nid yw’r cyfeiriadau IP hyn yn gysylltiedig ag unrhyw ddata personol felly mae ymwelwyr â’n gwefan yn aros yn anhysbys.


Diogelu DATA

Mae gennych chi’r hawl i wybod am yr wybodaeth bersonol y mae Prifysgol Cymru yn ei dal amdanoch chi, os o gwbl. Hefyd mae gennych yr hawl i gywiro neu ddileu eich data. Cyfeiriwch bob cais a/neu ymholiad am ein polisi diogelu data i:

Swyddog Diogelu Data
Prifysgol Cymru
Cofrestrfa’r Brifysgol
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd, CF10 3NS
Ebost: dataprot@cymru.ac.uk neu ewch i’n tudalennau gwe Diogelu Data


Ymholiadau

Gellir cyfeirio ymholiadau eraill at y Gwefeistr yn y cyfeiriad uchod neu drwy ebost i gwefan@gwasg.cymru.ac.uk