• Bydd y cyhoeddwr neu’r golygydd yn hysbysu’r awdur yn syth o unrhyw gyhuddiadau o gamymddygiad. Diffinnir camymddygiad fel unrhyw weithred o fewn awduraeth cyfnodolyn a ellid ei ystyried yn anegwyddorol neu dwyllodrus, gan gynnwys llên-ladrad a pheidio rhoi cydnabyddiaeth yn fwriadol.
  • Bydd unrhyw unigolyn sy’n codi achos o gamymddygiad yn aros yn anhysbys.
  • Dylid archwilio unrhyw gyhuddiadau o gamymddygiad mewn modd amserol, gan adael amser i awduron ateb unrhyw gyhuddiadau a wneir yn eu herbyn. Bydd pob parti yn derbyn cefnogaeth y Wasg yn ystod y broses.
  • Dylai awduron sicrhau nad oes enghreifftiau o hunanlên-ladrad o fewn teipysgrif. Ni ddylai teipysgrifau ail-adrodd gwaith a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, oni bai fod hynny wedi ei gytuno gyda’r golygydd a’r cyhoeddwr o flaen llaw.
  • Os byddwn yn derbyn cyhuddiad o gamymddygiad, gofynnir i awdur yr erthygl ddarparu tystiolaeth o’i ymchwil gwreiddiol.
  • Os profir camymddygiad ar ôl i erthygl gael ei chyhoeddi, bydd yr erthygl dan sylw yn cael ei hepgor o’n cronfa ar-lein, Ingenta.
  • Dylai golygyddion ac awduron ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posib yn ymwneud ag erthygl benodol ar gyfer cyfnodolyn, er mwyn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.
  • Dylai adolygwyr adael i’r golygydd wybod am unrhyw wrthdaro buddiannau cyn derbyn teipysgrif i’w hadolygu.
  • Dylai golygyddion gadw unrhyw waith a anfonwyd atynt yn gyfrinachol a’i rannu yn allanol gydag adolygwyr yn unig. Dylai adolygwyr hefyd drin teipysgrifau yn gyfrinachol, a thrafod eu cynnwys gyda’r golygydd yn unig.
  • Dylai pob cynnwys fod yn wreiddiol oni nodir yn wahanol. Ar gyfer cynnwys trydydd-parti, dylai awduron ofyn caniatâd y ffynhonnell wreiddiol i’w ddyfynnu, oni bai fod y deunydd yn dod o dan reolau delio teg. Dylid cynnwys cydnabyddiaeth briodol yn yr erthygl.
  • Ni ddylai awduron anfon erthygl sy’n cael ei hystyried i’w chyhoeddi mewn man arall.
  • Os oes camgymeriad difrifol yn cael ei ddarganfod ar ôl i’r erthygl gael ei chyhoeddi, bydd y cyhoeddwr yn gweithio gyda’r awdur a’r golygydd i gyhoeddi cywiriad lle bod angen.
  • Dylai awduron gydnabod unrhyw ffynonellau o gyllid allanol ar gyfer erthygl.
  • Bydd golygyddion yn barnu teipysgrifau ar sail gwerth academaidd yn unig, heb anffafriaeth yn seiliedig ar eu perthynas gyda’r awdur, neu sefydliad yr awdur, ei gredoau crefyddol neu wleidyddol, rhyw, gogwydd rhywiol, neu hil.