International Crime Fictions

Mae European Crime Fictions yn archwilio traddodiadau a thueddiadau mewn ffuglen trosedd, gan gynnig cyflwyniad i’r traddodiadau ysgrifennu trosedd sydd wedi datblygu mewn gwledydd neu ranbarthau penodol yn Ewrop. Mae pob cyfrol yn ymdrin ag awduron, mudiadau a dadleuon allweddol o fewn diwylliant penodol a’u perthynas â’r tueddiadau cymdeithasol a gwleidyddol ehangach. Mae pob cyfrol yn cynnwys dyfyniadau o destunau arwyddocaol wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, a bydd llyfryddiaeth anodedig yn cyfeirio darllenwyr at ffynonellau eilaidd eraill. Mae’r gyfres yn llenwi bwlch yn y deunydd eilaidd sydd ar gael i fyfyrwyr ac athrawon ffuglen trosedd trwy amlygu dimensiwn Ewropeaidd yr hyn a ystyrir yn aml yn ffurf Eingl-Americanaidd.