UWP

Creu Dinasyddiaeth i Gymru

Mewnfudo Rhyngwladol a’r Gymraeg

Awdur(on): Gwennan Higham

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Safbwyntiau

  • Mawrth 2020 · 144tudalen · 216x138mm

  • ·Clawr Meddal - 9781786835369
  • · eLyfr - epub - 9781786835383
  • · eLyfr - mobi - 9781786835390
  • · eLyfr - pdf - 9781786835376

Am y llyfr

Dyma gyfrol sydd yn ymdrin â mewnfudo rhyngwladol, cymunedau Cymru a’r Gymraeg o safbwynt ieithyddol a chymdeithasol. Gan dynnu ar ymchwil empeiraidd gyda myfyrwyr, tiwtoriaid iaith a swyddogion llywodraethol Cymru, mae’r awdur yn herio rhagdybiaethau damcaniaethol am berthynas mewnfudwyr â’r Gymraeg. Daw cymhlethdod sefyllfa iswladwriaethol Cymru i’r amlwg wrth I Lywodraeth Cymru ddatgan cefnogaeth dros ddwyieithrwydd, tra bod polisïau’r Wladwriaeth Brydeinig yn hybu polisi mewnfudo a dinasyddiaeth homogenaidd ac unieithog. Wedi trafod y sefyllfa yn Québec ac archwilio’r berthynas rhwng hunaniaethau ethnig a sifig, awgryma Gwennan Higham ei bod yn ddyletswydd arnom i ddiffinio a sefydlu dinasyddiaeth amlethnig Gymreig a Chymraeg.

Dyfyniadau

‘Mae’r gyfrol hon yn cyfuno dadansoddi polisi craff ag asesiadau realistig o’r heriau a wynebir gan fewnfudwyr a ffoaduriaid wrth geisio cael eu hintegreiddio i’r gymdeithas leol yng Nghymru. Y canlyniad yw triniaeth wreiddiol, heriol a gwerthfawr o ddehongliad newydd ar ddinasyddiaeth. Gan ddefnyddio profiad rhyngwladol, megis Québec a Gwlad y Basg, cyniga’r drafodaeth ystyriaethau newydd trawsnewidiol o fudd i asiantaethau a chymdeithas sifil wrth iddynt geisio gwella profiad beunyddiol trigolion newydd yn eu plith. Mae profiad personol ac argyhoeddiad yr awdur o werth, ac urddas pob unigolyn yn goleuo pob rhan o’r dadansoddiad rhagorol hwn.’
-Yr Athro Colin H. Williams

‘Un o’r heriau o’n blaenau yw sicrhau bod yr ymadrodd “Cymraeg i Bawb” yn cael ei wireddu. Yn y gyfrol hon, mae’r awdur Higham yn dangos tystiolaeth bod awydd i gofleidio’r Gymraeg ymhlith ein diwylliannau amrywiol yng Nghymru – mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn falch iawn o weld cyhoeddi’r gwaith pwysig hwn.’
-Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

'A miloedd ar filoedd yn gwrthdystio'n fyd-eang ers diwedd Mai yn enw Black Lives Matter - yn sgil llofruddiaeth George Floyd gan swyddogion yr heddlu ym Minneapolis - go brin y bydd cyfrol fwy amserol na Creu Dinasyddiaeth i Gymru yn cael ei chyhoeddi gan weisg Cymru eleni. Er mai canolbwyntio'n benodol ar hynt a helynt mewnfudwyr rhyngwladol i Gymru a wna Gwennan Higham, mae'r drafodaeth yn hynod berthnasol i'r ddadl sydd wedi ei thanio yr ochr hon i Fôr yr Iwerydd ynglŷn â pha mor gynhwysol yw gwledydd Prydain i leiafrifoedd hiliol ac ethnig o bob math.'
– Lisa Sheppard, O’r Pedwar Gwynt Haf 2020

'Ymhlith yr anawsterau a grybwyllir mae’r canfyddiad fod y Gymraeg yn perthyn i grŵp caeedig. Mewn termau haniaethol, gwelir y Gymraeg fel rhywbeth yn perthyn i’r maes ethnig ond gwelir y Saesneg fel yr iaith sifig agored. Ond paham, os yw’r ddwy iaith yn swyddogol ac yn gyfartal yng Nghymru, y darperir gwersi Saesneg am ddim i fewnfudwyr ond nid gwersi Cymraeg? Dyma gwestiynau sy’n mynd â ni at galon yr egin ddinasyddiaeth Gymreig, a maes polisi – sef ail haen y gyfrol.'
– Ned Thomas, Cylchgrawn Barn, Gorffennaf 2020

Cynnwys

Rhagair

1 ‘Bringing people together around British values and that kind of thing’: Dadlau’r tuhwnt i amlddiwylliannedd yng Nghymru

2 ‘Dinasyddiaeth Brydeinig – mae e’n clymu ni mewn’: Adeiladu seiliau dinasyddiaeth Gymreig

3 ‘Dinesydd fydda i – dw i eisiau dysgu Cymraeg’: Llunio darpariaeth Gymreig i fewn-fudwyr

Ôl-nodyn
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Gwennan Higham

Darllen mwy