Safbwyntiau

Cyfres yw hon sy’n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd.

Golygydd cyffredinol: Yr Athro Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Llion Wigley, Golygydd Comisiynu – Iaith Gymraeg a Phynciau Cymreig yn GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: llion.wigley@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.