'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'

Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth

Awdur(on) Richard Wyn Jones

Iaith: Cymraeg

Cyfres: Safbwyntiau

  • Gorffennaf 2013 · 126 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9780708326503
  • · eLyfr - pdf - 9780708326565
  • · eLyfr - epub - 9781783161065

Am y llyfr

Ers degawdau clywyd cyhuddiadau cyson o du Cymry uchel eu parch fod cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydymdeimlo â Ffasgaeth yn ystod dyddiau duon y 1930au a’r Ail Ryfel Byd – cyhuddiad a fyddai’n pardduo enw unrhyw elyn gwleidyddol. Yn y gyfrol arloesol hon, mae sylwebydd gwleidyddol amlycaf Cymru yn pwyso a mesur gwirionedd y cyhuddiadau. Yn ogystal â bwrw goleuni newydd ar agweddau Plaid Cymru a’i harweinwyr yn ystod y cyfnod hanesyddol dan sylw, mae’r llyfr yn cyflwyno trafodaeth heriol ar natur diwylliant gwleidyddol y Gymru gyfoes.

Dyfyniadau

"Campwaith o gyfrol sy'n claddu am byth un o gelwyddau mwyaf dinistriol y ddisgwrs wleidyddol Gymreig" Adam Price, cyn aelod Plaid Cymru, ymgynhorwr i Leanne Wood "Dehongliad treiddgar a thrylwyr mewn arddull afaelgar a chyhyrog o destun sydd wedi corddi a chythruddo gwleidydiaeth Cymru am ddegawdau" Guto Harri, Gyfarwyddwr Cyfathrebu News International, cyn Gohebydd gwleidyddol gyda'r BBC

Cynnwys

Cyflwyniad Y Cyhuddiadau Adnabod Ffasgwyr a Ffasgaeth Diffinio Ffasgaeth o Y Wladwriaeth o Trais o Arweinyddiaeth o Gwrth-Semitiaeth Cymru mewn Degawd o Ryfela Diwylliant Gwleidyddol Cymru Diweddglo: Achubiaeth ac Alltudiaeth Llyfryddiaeth Mynegai

Cyflwyno'r Awdur(on)

Awdur(on): Richard Wyn Jones

Mae Richard Wyn Jones yn dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Darllen mwy