Videogames and Horror

From Amnesia to Zombies, Run!

Awdur(on) Dawn Stobbart

Iaith: Saesneg

Dosbarthiad(au): Media, Film and Theatre

Cyfres: Horror Studies

  • Hydref 2019 · 304 tudalen ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786834362
  • · eLyfr - pdf - 9781786834379
  • · eLyfr - epub - 9781786834386

Mae gemau fideo yn llawn elfennau arswydus – ac yn llawn arswyd, agwedd o’r cyfryngau a anwybyddwyd i raddau helaeth yn y gymuned academaidd o ran astudiaethau hir ym maes ysgolheictod gemau fideo, sy’n tyfu’n gyflym. Daw From Amnesia to Zombies i ymuno â’r drafodaeth hon, gydag archwiliad swmpus o arswyd fel motiff mewn gemau fideo. Mae’r gyfrol yn ymdrin ag ymchwil ysgolheigion blaenllaw ar draws y dyniaethau sy’n archwilio presenoldeb, rôl a swyddogaeth arswyd mewn gemau fideo, a thrwy wneud hynny mae’n dangos sut mae’r gêm fideo yn dod yn rhan o drafodaethau am arswyd a sut mae gemau fideo’n cynnig bwlch unigryw, radical, y mae arswyd yn arbennig o addas i’w lenwi. Mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys llunio straeon mewn gemau fideo, rôl yr anghenfil, ac wrth gwrs, sut caiff marwolaeth ei drin fel offeryn dysgu ac fel agwedd ar arswyd.