Horror Studies

Horror Studies yw’r gyfres gyntaf erioed sy’n ymwneud yn llwyr ag astudio’r genre yn ei holl weddau. Nod y gyfres newydd yw trafod y diddordeb cyson cynyddol mewn Arswyd – o ffuglen i sinema a theledu, cylchgronau i gomics, ac sy’n estyn i fathau eraill o destunau naratif fel gemau fideo neu gerddoriaeth. Nod Horror Studies yw codi proffil Arswyd yn y broses o sefydliadu astudiaeth academaidd drwy gynnig cartref cyhoeddi i ysgrifennu academaidd arloesol, gyda chyflwyniadau i gyfnodau, ffigurau a thestunau allweddol yn y maes. Fel menter newydd gyffrous sy’n rhan o raglen Astudiaethau Diwylliannol a Beirniadaeth Lenyddol GPC, bydd Horror Studies yn ehangu diddordeb y maes yn yr elfennau tywyll, macabr a brawychus mewn dulliau arloesol sy’n addas i fyfyrwyr.

Golygydd y Gyfres: Dr Xavier Aldana Reyes, Prifysgol Fetropolitan Manceinion

Bwrdd Golygyddol: Dr Stacey Abbott, Prifysgol Roehampton; Dr Linnie Blake, Prifysgol Fetropolitan Manceinion; Yr Athro Harry M. Benshoff, Prifysgol Gogledd Texas; Yr Athro Fred Botting, Prifysgol Kingston; Yr Athro Steven Bruhm, Prifysgol Gorllewin Ontario; Yr Athro Steffen Hantke, Prifysgol Sogang, Seoul; Dr Joan Hawkins, Prifysgol Indiana; Dr Alexandra Heller-Nicholas, Prifysgol Deakin; Dr Bernice M. Murphy, Coleg y Drindod, Dulyn; Yr Athro Agnieszka Soltysik Monnet, Prifysgol Lausanne; Dr Johnny Walker, Prifysgol Northumbria; Dr Maisha Wester, Prifysgol Indiana Bloomington.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.