Cyfres
Cyfresi Cyfredol
Rhestrir cyfresi Saesneg o dan y Cyfresi Cymraeg; i ddarllen mwy am ein Cyfresi Saesneg, cliciwch yma.
Cyfresi yn y Gymraeg
Cymru a’r Chwyldro Ffrengig Golygyddion y Gyfres/Golygyddion Cyffredinol: Dr Mary-Ann Constantine a’r Athro Dafydd Johnston, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Mae hon yn gyfres arloesol sy’n trafod amrywiol agweddau ar effaith y Chwyldro Ffrengig ar Gymru a’i diwylliant. Cyhoeddir ynddi ystod eang o ddeunydd Cymraeg am y tro cyntaf, o faledau a phamffledi i lythyron personol a cherddi, ysgrifau, cylchgronau, pregethau, caneuon a dychanau.
Dawn Dweud Golygydd y Gyfres: Simon Brooks
Cyfres o fywgraffiadau llenyddol yw hon, lle cyflwynir ymdriniaeth feirniadol ar waith awdur ochr yn ochr â gyrfa, bywyd ac ymateb y gwrthrych i’r byd o’i gwmpas.
Diwylliant Gweledol Cymru Golygydd y Gyfres: Yr Athro Geraint H. Jenkins, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Mae Diwylliant Gweledol Cymru yn seiliedig ar waith ymchwil arloesol a wnaed yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Hon yw’r gyfres gyntaf o’i math i archwilio datblygiad delweddau a’r broses o greu delweddau yng nghyd-destun ehangach datblygiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cenedl Cymru, o’r cyfnod Cristnogol Celtaidd tan oddeutu 1960.
Gwynddonwyr Cymru Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Gareth Ffowc Roberts, Prifysgol Bangor; Yr Athro John V. Tucker, Prifysgol Abertawe; Yr Athro Iwan Rhys Morus, Prifysgol Aberystwyth
Mae Gwyddonwyr Cymru yn cynnig llyfrau ysgolheigaidd wedi’u hysgrifennu mewn ffordd hygyrch am wyddonwyr o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad mawr ac arwyddocaol, yn y gorffennol a’r presennol, at ddatblygiadau ac arloesedd gwyddonol. Bu tueddiad yn hanesyddol i gyfyngu’r syniad o ddiwylliant Cymreig i’r hyn a gynhyrchwyd gan ei hawduron, ei beirdd, ei cherddorion a’i diwinyddion; bydd y gyfres hon yn mynd i’r afael â’r dybiaeth honno ac yn dangos cyfraniad hynod arwyddocaol ei gwyddonwyr ar raddfa fyd-eang. Mae awduron y cyfrolau bywgraffyddol hyn yn arbenigwyr ar eu pwnc, a chyflwynir y gwaith mewn ffordd sy’n fywiog ac yn hygyrch, gan edrych ar y bobl y tu ôl i’r wyddoniaeth, gyda’r y cynnwys gwyddonol yn cael ei esbonio’n eglur i ddarllenwyr sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth am wyddoniaeth.
Y Meddwl a’r Dychymyg CymreigGolygydd y gyfres: Gerwyn Wiliams
Mae’r gyfres hon yn archwilio’r themâu mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ymdrin â’r tirlun diwylliannol Cymreig ar hyd yr oesoedd, gan ddadansoddi natur y meddwl a’r dychymyg Cymreig mewn gwahanol gyd-destunau.
Safbwyntiau: Gwleidyddiaeth·Diwylliant·CymdeithasGolygydd cyffredinol:Yr Athro Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe.
Cyfres yw hon sy’n cynnig golwg annisgwyl a dadlennol ar rai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt; o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, ac o iaith i grefydd.
Cyfresi yn y Saesneg
Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru, mae Gwasg Prifysgol Cymru’n cyflwyno cyfres o lyfrau’n trafod pensaernïaeth Cymru. O ystyried delwedd gonfensiynol Cymru fel gwlad y gân a cherdd, hawdd yw anghofio am bensaernïaeth a’r celfyddydau gweledol. Mewn gwirionedd, mae gan Gymru dreftadaeth adeiledig gyfoethog, o’r oesoedd canol i’r cyfnod modern. Mae ei chymeriad pensaernïol yn wahanol iawn i genhedloedd eraill Ynysoedd Prydain, a’r arbenigrwydd hwn sy’n haeddu cael ei ddathlu. Cymharol ychydig sydd wedi’i gyhoeddi am dreftadaeth bensaernïol ein cenedl, er gwaethaf y ffaith fod adeiladau a lleoedd wedi’u creu yng Nghymru y gellir eu cymharu ag enghreifftiau cyfoes mewn mannau eraill, a luniwyd gan benseiri oedd yn rhan o’r un ceryntau a thrafodaethau diwylliannol.
Golygydd cyffredinol: Mary Wrenn, RSAW. Golygyddion y Gyfres: Bella Kerr, David Thomas
Arthurian Literature in the Middle Ages Golygydd y Gyfres: Yr Athro Ad Putter, Prifysgol Bryste.
Cefnogir y gyfres hon gan Ymddiriedolaeth Vinaver ac mae’n darparu arolwg cynhwysfawr a dibynadwy o ysgrifennu Arthuraidd o bob ffurf a diwylliant, ar draws y cyfraniadau unigryw a wnaed at Lenyddiaeth Arthuraidd gan ddiwylliannau amrywiol Ewrop yr Oesoedd Canol. Er bod y gyfres wedi’i hanelu’n bennaf at ysgolheigion sy’n gweithio yn y meysydd a drafodir ym mhob un o’r cyfrolau, mae pob cyfrol wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i ysgolheigion o wahanol feysydd sy’n dymuno dysgu sut y dylanwadodd hanesion Arthuraidd ar eu meysydd ymchwil eu hunain.
Contemporary Landmark Television Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Steve Blandford, Prifysgol De Cymru; yr Athro Stephen Lacey, Prifysgol De Cymru; Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru.
Mae Contemporary Landmark Television yn cynnig ymchwiliadau amserol i faes darlledu cyfredol, trwy ganolbwyntio ar brif allbwn teledu: rhaglenni. Trwy gydnabod bod ysgolheictod teledu yn elwa o ymgysylltu â phrofiad gwylio cyfredol ysgolheigion a myfyrwyr, mae’r gyfres yn ystyried cyfrwng torfol teledu fel ffynhonnell greadigol o ymyriad celfyddydol a chymdeithasol ym myd ei wylwyr.
International Crime Fictions Golygyddion y Gyfres:Yr Athro Claire Gorrara, Prifysgol Caerdydd; Dr Shelley Godsland, Prifysgol Birmingham; Dr Giuliana Pieri, Royal Holloway, Prifysgol Llundain.
Mae European Crime Fictionsyn archwilio traddodiadau a thueddiadau mewn ffuglen trosedd, gan gynnig cyflwyniad i’r traddodiadau ysgrifennu trosedd sydd wedi datblygu mewn gwledydd neu ranbarthau penodol yn Ewrop. Mae pob cyfrol yn ymdrin ag awduron, mudiadau a dadleuon allweddol o fewn diwylliant penodol a’u perthynas â’r tueddiadau cymdeithasol a gwleidyddol ehangach. Mae pob cyfrol yn cynnwys dyfyniadau o destunau arwyddocaol wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, a bydd llyfryddiaeth anodedig yn cyfeirio darllenwyr at ffynonellau eilaidd eraill. Mae’r gyfres yn llenwi bwlch yn y deunydd eilaidd sydd ar gael i fyfyrwyr ac athrawon ffuglen trosedd trwy amlygu dimensiwn Ewropeaidd yr hyn a ystyrir yn aml yn ffurf Eingl-Americanaidd.
French and Francophone Studies Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Claire Gorrara, Prifysgol Caerdydd ac Athro Hanna Diamond, Prifysgol Caerdydd
Mae French and Francophone Studies yn amlygu patrymau ymchwil newidiol mewn astudiaethau Ffrengig a gwledydd Ffrangeg eu hiaith, yn ail-werthuso dulliau traddodiadol o gynrychioli hunaniaethau Ffrengig a gwledydd Ffrangeg eu hiaith, ac yn annog amrywiaeth o syniadau a safbwyntiau ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Mae’r pwyslais trwy gydol y gyfres ar y ffyrdd y mae cymunedau Ffrengig a Ffrangeg eu hiaith ledled y byd yn esblygu yn yr unfed ganrif ar hugain.
Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru Golygyddion y Gyfres: Dr Dawn Mannay, Prifysgol Caerdydd; Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd; Athro Diana Wallace, Prifysgol De Cymru; Dr Stephanie Ward, Prifysgol Caerdydd; Dr Sian Rhiannon Williams, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cyfres yw hon sy’n archwilio nodweddion ac effeithiau rhywedd yng Nghymru, ei effaith ar fywydau’r gorffennol ynghyd â’r modd y llywia brofiadau’r oes sydd ohoni.
Global Media and Small Nations Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Steve Blandford, Prifysgol De Cymru a Dr Gill Allard, Prifysgol De Cymru.
Mae Global Media and Small Nations yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â hunaniaeth genedlaethol, lleoleiddio a globaleiddio, gan ganolbwyntio ar genhedloedd bach yn benodol. Y nod yw casglu gwaith ynghyd ar y berthynas rhwng syniad y ‘cenedlaethol’ a’r cyfryngau a’r diwylliant a gynhyrchir mewn gwahanol fathau o gyd-destunau cenedlaethol.
Gothic Literary Studies Golygyddion y Gyfres: Professor Andrew Smith, Prifysgol Sheffield a’r Athro Benjamin F. Fisher, Prifysgol Mississippi.
Mae Gothic Literary Studies wedi ymrwymo i gyhoeddi ysgolheictod arloesol ar lenyddiaeth a ffilm Gothig, ac i hybu dulliau heriol ac arloesol o drafod y Gothig gan gwestiynu traddodiad neu uniongrededd beirniadol tybiedig ffurf sy’n cyflawni swyddogaeth bwysig o ran deall hanesion llenyddol, deallusol a diwylliannol. Rhoddir sylw yng nghyfrolau’r gyfres i’r datblygiadau diweddaraf mewn theori feirniadol, ac maent yn archwilio sut mae materion fel rhyw, crefydd, cenedl a rhywioldeb wedi llywio ein safbwynt o’r traddodiad Gothig.
Gothic Authors: Critical Revisions Golygyddion y Gyfres: Professor Andrew Smith, Prifysgol Sheffield a’r Athro Benjamin F. Fisher, Prifysgol Mississippi.
Mae Gothic Authors: Critical Revisions yn cyhoeddi cyflwyniadau arloesol i awduron y Gothig. Mae’r gyfres yn archwilio sut y gall ymdriniaeth a safbwyntiau beirniadol ein helpu i roi gwaith awdur mewn cyd-destun newydd, mewn ffordd sy’n hygyrch ac yn llawn gwybodaeth. Mae’r gyfres hon yn cyhoeddi gwaith sydd o ddiddordeb a gwerth i fyfyrwyr ar bob lefel, ac i athrawon llenyddiaeth Gothig a hanes diwylliannol.
Horror Studies yw’r gyfres gyntaf erioed sy’n ymwneud yn llwyr ag astudio’r genre yn ei holl weddau. Nod y gyfres newydd yw trafod y diddordeb cyson cynyddol mewn Arswyd – o ffuglen i sinema a theledu, cylchgronau i gomics, ac sy’n estyn i fathau eraill o destunau naratif fel gemau fideo neu gerddoriaeth. Nod Horror Studies yw codi proffil Arswyd yn y broses o sefydliadu astudiaeth academaidd drwy gynnig cartref cyhoeddi i ysgrifennu academaidd arloesol, gyda chyflwyniadau i gyfnodau, ffigurau a thestunau allweddol yn y maes. Fel menter newydd gyffrous sy’n rhan o raglen Astudiaethau Diwylliannol a Beirniadaeth Lenyddol GPC, bydd Horror Studies yn ehangu diddordeb y maes yn yr elfennau tywyll, macabr a brawychus mewn dulliau arloesol sy’n addas i fyfyrwyr.
Golygydd y Gyfres: Dr Xavier Aldana Reyes, Prifysgol Fetropolitan Manceinion
The Gwent County History Golygydd y Gyfres: Yr Athro Ralph Griffiths, Prifysgol Abertawe.
Cyhoeddir y gyfres bwysig hon o gyfrolau awdurdodol ar hanes Gwent, o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Sir Gwent. Mae pob cyfrol unigol yn ymdrin â hanes demograffig, cymdeithasol ac economaidd, gwleidyddol a gweinyddol, a chrefyddol yr hen Sir Fynwy.
Iberian and Latin American Studies Golygyddion y Gyfres: Yr Athro David George, Prifysgol Abertawe a’r Athro Paul Garner, Prifysgol Leeds.
Nod Iberian and Latin American Studies yw darparu dull cyd-destunol a disgyblaethol o astudio’r byd Sbaenaidd a’r byd Portiwgalaidd ar draws amrywiaeth eang o gynnyrch diwylliannol gan gynnwys llenyddiaeth, ffilm, cerddoriaeth, dawns a chwaraeon, yn y Sbaeneg, y Bortiwgaleg, y Fasgeg, y Gatalaneg, yr Aliseg ac ieithoedd brodorol America Ladin. Mae’r gyfres hefyd yn ceisio ymdrin â hanes a gwleidyddiaeth yn ogystal ag astudiaethau diwylliannol trwy archwilio’r sefyllfa newidiol o ran hunaniaethau rhyw, rhywiol, hiliol ac ôl-drefedigaethol yn y rhanbarthau hynny.
Intersections in Literature and Science Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Ruth Robbins, Prifysgol Leeds Beckett, a’r Athro Susan Watkins, Prifysgol Leeds Beckett.
Mae Intersections in Literature and Science yn cynhyrchu ysgolheictod arloesol yn y maes eang o astudiaeth academaidd a adnabyddir fel llenyddiaeth a gwyddoniaeth. Mae’n archwilio’r cyfraniad pwysig a pharhaus a wneir ar y cyd gan awduron a gwyddonwyr tuag at ddeall ein byd, trwy ymchwilio i ryng-gysylltiadau hanesyddol, o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd heddiw, rhwng llenyddiaeth ddychmygus a darganfyddiadau ac arloesedd gwyddonol a thechnolegol. Mae’r llyfrau yn y gyfres yn datgelu’r cysylltiad agos oedd yn bodoli, ac sy’n dal i fodoli, rhwng llenyddiaeth a gwyddoniaeth yn ogystal â thynnu ein sylw at eu swyddogaethau hollbwysig o ran llunio bydoedd cymdeithasol a diwylliannol y gorffennol a’r presennol, a hunaniaethau unigol a chenedlaethol.
Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru Golygydd Cyffredinol: Yr Athro Geraint H. Jenkins, cyn-Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Mae’r gyfres hon yn trafod ac yn ailystyried bywyd, gwaith a syniadaeth Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747–1826), y ffigwr mwyaf hynod yn hanes diwylliannol Cymru.
Lives and Beliefs of the Ancient Egyptians Golygydd y Gyfres: Dr Carolyn Graves-Brown, Curadur Canolfan yr Aifft, Prifysgol Abertawe.
Mae’r gyfres hon ar yr hen Aifft yn canolbwyntio ar y casgliad helaeth o arteffactau yn y Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cyfrolau unigol y gyfres yn archwilio bywydau a chredoau’r hen Eifftiaid ac yn amrywiol o ran themâu, gan drafod cythreuliaid yr isfyd, ysbrydion y meirw, a chredoau ac arferion y bobl gyffredin yn yr hen Aifft yn ogystal â rhai ei brenhinoedd. Mae’r gyfres wedi ei hysgrifennu mewn ffordd hygyrch a cheir lluniau drwyddi draw, i gynnig golwg ar fywydau beunyddiol pobl y cyfnod hynod ddiddorol hwn mewn hanes.
Materialities in Anthropology and Archaeology
Mae Materialities in Anthropology and Archaeology yn cynnig ymchwiliad amserol i’r byd materol a lle pobloedd oddi mewn iddo. Gyda damcaniaethau traddodiadol materoliaeth yn canolbwyntio ar sut mae gwrthrychau’n siapio bywydau pobl, nod y gyfres hon ar y llaw arall (sydd wedi’i lleoli yn y Materoliaethau Newydd) yw dangos sut mae’r byd yn cynnwys cyfosodiadau o ddeunyddiau sy’n rhyngweithio, ac sydd felly’n dangos rôl gyfansoddol ac asiantaidd mater wrth ffurfio bydoedd materol.
Golygyddion y Gyfres: Luci Attala a Louise Steel, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r gyfres hon yn archwilio effaith hanesyddol a diwylliannol anifeiliaid yn y canol oesoedd, â’r nod o ddatblygu dealltwriaeth newydd, dadansoddi tensiynau diwylliannol, cymdeithasol a diwinyddol, a datgelu eu hadleisiau rhyfeddol yn y byd cyfoes. Mae teitlau’r gyfres yn trafod syniadau am anifeiliaid yn Ewrop ganoloesol, o’r bumed hyd yr unfed ganrif ar bymtheg – roedd syniadau canoloesol am anifeiliaid yn manteisio ar dreftadaeth glasurol gyfoethog, a pharhaodd rhai agweddau at anifeiliaid y gallem ni eu hystyried fel rhai a nodweddai’r Oesoedd Canol hyd at Gyfnod yr Ymoleuo, a hyd yn oed y presennol.
Golygyddion y Gyfres: Dr Diane Heath, Prifysgol Canterbury Christ Church Dr Victoria Blud, Prifysgol Caerefrog
New Approaches to Celtic Religion and Mythology Golygydd y Gyfres: Dr Jonathan Wooding, Athro Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Sydney, Awstralia.
Mae New Approaches to Celtic Religion and Mythology yn llenwi bwlch yn y llenyddiaeth sy’n bodoli gyda llyfrau ysgolheigaidd, awdurdodol ond hygyrch ar Grefydd a Mytholeg Geltaidd, trwy gynnig fforwm ar gyfer y gwaith ymchwil diweddar gorau ar y pwnc. Bydd y cyfrolau’n canolbwyntio ar ddiwylliant crefyddol cynnar Ewrop Geltaidd, pwnc sydd o bwysigrwydd mawr i hanes Ewrop, ac yn ystyried i ba graddau y mae llenyddiaeth Gristnogol yn ein galluogi i ail-lunio’r byd cyn-Cristnogol, sy’n parhau yn un o’r pynciau mwyaf dadleuol ym maes Astudiaethau Celtaidd yn yr unfed ganrif ar hugain.
New Century Chaucer Golygydd y Gyfres: Yr Athro Helen Fulton, Prifysgol Efrog.
Gwaith Geoffrey Chaucer yw’r testunau o’r Oesoedd Canol sy’n parhau i gael eu hastudio’n helaethach nag unrhyw ddeunydd arall o’r cyfnod; yn wir, Chaucer yw’r unig awdur o’r Oesoedd Canol y mae llawer o fyfyrwyr llenyddiaeth yn ei ddarllen yn aml. Mae’r gyfres hon yw llenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer astudiaethau ac argraffiadau o waith Chaucer sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gyfuno ysgolheictod newydd â thestunau hygyrch ac argraffiadau a chyfieithiadau pwrpasol. Ategir hyn gan astudiaethau difyr yn cyflwyno’r syniadau ymchwil diweddaraf. Fe’i bwriedir ar gyfer myfyrwyr ac ysgolheigion yr unfed ganrif ar hugain y mae eu hyfforddiant a’u diddordebau ymchwil wedi cael eu llywio gan gyfryngau newydd, astudiaethau rhyngddisgyblaethol a chwricwlwm eang.
New Dimensions in Science Fiction
Nod New Dimensions in Science Fiction yw cofnodi dimensiynau dynamig, byd-eang a thrawsgyfryngol adrodd straeon a beirniadaeth ffuglen wyddonol drwy gynnig cyrchfan i ysgolheigion o ddisgyblaethau niferus archwilio eu syniadau am berthynas angenrheidiol gwyddoniaeth a chymdeithas fel y’i mynegir mewn ffuglen wyddonol.
Golygyddion y Gyfres: yr Athro Pawel Frelik Prifysgol, Maria Curie-Skłodowska a’r Athro Patrick B. Sharp, Prifysgol California State
Political Philosophy Now Golygydd y Gyfres: Howard Williams, Athro Nodedig Er Anrhydedd, Prifysgol Caerdydd, ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Political Philosophy Now yn archwilio damcaniaethau cyfoes a hanesyddol ym maes athroniaeth wleidyddol er mwyn ystyried pa mor berthnasol ydynt i drafodaethau cyfredol ynglŷn ag amrywiaeth o bynciau a safbwyntiau o draddodiadau amrywiol, sy’n cynnwys trafodaethau ar athroniaeth wleidyddol yn Ewrop a’r Byd Newydd.
Politics and Society in Wales Golygyddion y Gyfres: Dr Paul Chaney, Prifysgol Caerdydd, a Dr Andrew Thompson, Prifysgol De Cymru.
Mae’r gyfres hon yn archwilio materion gwleidyddiaeth a llywodraeth, ac effeithiau datganoli ar y broses o lunio polisïau wrth i’r Cynulliad Cenedlaethol aeddfedu. Mae astudiaethau yn y gyfres yn cynnwys elfennau cryf o gymhariaeth, gan alluogi gwerthusiad mwy cytbwys o’r amgylchiadau yng Nghymru.
The Public Law of Wales Golygydd y Gyfres: Yr Athro Thomas Glyn Watkin, cyn-Brif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru, Llywodraeth y Cynulliad; Athro’r Gyfraith a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor; Athro’r Gyfraith, Ysgol y Gyfraith Caerdydd.
Yn sgil rhoi pwerau deddfwriaethol newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd y gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru o ran materion datganoledig yn gynyddol wahanol i’r gyfraith yn Lloegr. Bydd angen felly i gyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith yng Nghymru (ac mewn rhai rhannau o Loegr) allu nodi a defnyddio’r gyfraith berthnasol ar gyfer Cymru. Am y tro cyntaf erioed, mae’r gyfres hon yn darparu llyfrau sy’n cynnig archwiliad a chyflwyniad cynhwysfawr ar gyfraith Cymru: beth yw’r gyfraith honno a sut mae’n wahanol i’r gyfraith sy’n berthnasol yn Lloegr? Dyma gyfres i ddiwallu anghenion cyfreithwyr Cymru a’r rhai sydd wrthi’n ymarfer yn yr amgylchedd datganoledig ar hyn o bryd, yn ogystal â myfyrwyr ac athrawon.
Religion and Culture in the Middle Ages Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Diane Watt, Prifysgol Surrey, a’r Athro Denis Renevey, Prifysgol Lausanne.
Mae Religion and Culture in the Middle Ages yn archwilio’r cysylltiad rhwng crefydd a diwylliant yr Oesoedd Canol trwy ganolbwyntio ar astudiaethau sy’n mynd i’r afael â gwaith a wnaeth gyfraniad arwyddocaol at lywio’r diwylliant canoloesol, ond gan edrych hefyd ar waith sydd wedi derbyn fawr ddim sylw gan ysgolheigion yr oesoedd canol hyd yn hyn. Mae’r gyfres yn annog ymdriniaeth ryngddisgyblaethol ac yn ymchwilio i’r Oesoedd Canol yn Ewrop rhwng oddeutu 500 a 1500, gan adlewyrchu amrywiaeth y cyfnod diwylliannol hwn trwy archwilio amrywiaeth eang o themâu megis diwinyddiaeth, hanes, athroniaeth a llenyddiaeth.
Rethinking the History of Wales
Nod y gyfres hon yw hybu meddwl ffres am hanes Cymru drwy gyflwyno cyfnodau a themâu penodol mewn ffyrdd sy’n herio dehongliadau sefydledig. Boed drwy gynnig safbwyntiau newydd ar nodau cyfarwydd yn y dirwedd hanesyddiaethol, neu drwy fentro i diriogaeth nas cofnodwyd o’r blaen, bydd y cyfrolau, gydag arbenigwr yn y maes yn llunio pobl un, yn cynnig arolygon cryno a dethol sy’n amlygu meysydd trafod yn hytrach na cheisio cyflawni ymdriniaeth gynhwysfawr. Bydd y gyfres felly’n annog ymgysylltu gydag amrywiol agweddau ar ddealltwriaeth o orffennol Cymru ac felly gyda’i harwyddocâd parhaus – a dadleuol ar adegau – yn y presennol.
Golygyddion y Gyfres: Athro Paul O’Leary a’r Athro Huw Pryce
Studies in Visual Culture Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Margaret Topping, Prifysgol Queen’s, Belfast; Dr Rachael Langford, Prifysgol Caerdydd; Dr Giuliana Pieri, Royal Holloway, Prifysgol Llundain.
Mae Studies in Visual Cultureyn darparu fforwm ar gyfer cynnal ymchwiliadau arloesol i gynnyrch gweledol-ddiwylliannol yn ei gyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol, gan roi pwyslais arbennig ar y cyfnewidiadau, y trafodion a’r dadleoliadau sy’n cysylltu Ewrop â chyd-destunau byd-eang ar draws y maes gweledol-ddiwylliannol. Nod y gyfres yw hybu ymgysylltiad beirniadol â chyfryngau gweledol fel lluniadau ideolegol a diwylliannol yn ogystal ag esthetig, trwy archwilio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys hanes diwylliannol, cynhyrchion a beirniadaeth lenyddol, athroniaeth, rhyw a rhywioldeb, newyddiaduraeth ac astudiaethau’r cyfryngau, astudiaethau mudiad a mudoledd, gwyddorau cymdeithasol a gwleidyddiaeth.
Studies in Welsh History Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Ralph Griffiths, Prifysgol Abertawe; yr Athro Chris Williams, Prifysgol Caerdydd; Dr Eryn White, Prifysgol Aberystwyth.
Sefydlwyd y gyfres hon ym 1977 a’i phrif nod yw gwasanaethu ysgolheictod hanesyddol ac annog astudiaeth ym maes hanes Cymru. Mae cyfrolau’r gyfres yn cynnwys gwaith ymchwil ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.
The Visual Culture of Wales Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Margaret Topping, Prifysgol Queen’s, Belfast; Dr Rachael Langford, Prifysgol Caerdydd; Dr Giuliana Pieri, Royal Holloway, Prifysgol Llundain.
Wales and the French Revolution
Cyfres sy’n torri tir newydd drwy drafod amrywiol agweddau ar effaith y Chwyldro Ffrengig ar Gymru a diwylliant Cymru. Cyhoeddir amrywiaeth eang o ddeunydd Cymreig yma am y tro cyntaf, o faledi a phamffledi i lythyrau personol a cherddi, ysgrifau, cyfnodolion, pregethau, caneuon a dychan.
Golygyddion y Gyfres: Dr Mary-Ann Constantine a’r Athro Dafydd Johnston, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Jane Aaron, Prifysgol De Cymru; Yr Athro M. Wynn Thomas, Prifysgol Abertawe; Dr Andrew Webb, Prifysgol Bangor. Golygydd Sefydlol: Yr Athro Meic Stephens. Golygydd er Anrhydedd: Dr R. Brinley Jones.
Cyfres o gyflwyniadau beirniadol i fywyd a gwaith llenorion ac ysgrifenwyr o Gymru.
Writing Wales in English Golygyddion y Gyfres: Yr Athro Daniel G. Williams a Dr Kirsti Bohata, Prifysgol Abertawe.
Cyfres yw hon o ymdriniaethau beirniadol ar lenyddiaeth Saesneg o Gymru, sy’n amlinellu ei chyfoeth ynghyd â natur y lleisiau amrywiol sy’n codi o’r corff helaeth hwn o waith.