Gothic Authors: Critical Revisions

Mae Gothic Authors: Critical Revisions yn cyhoeddi cyflwyniadau arloesol i awduron y Gothig. Mae’r gyfres yn archwilio sut y gall ymdriniaeth a safbwyntiau beirniadol ein helpu i roi gwaith awdur mewn cyd-destun newydd, mewn ffordd sy’n hygyrch ac yn llawn gwybodaeth. Mae’r gyfres hon yn cyhoeddi gwaith sydd o ddiddordeb a gwerth i fyfyrwyr ar bob lefel, ac i athrawon llenyddiaeth Gothig a hanes diwylliannol.

Golygyddion y Gyfres: Professor Andrew Smith, Prifysgol Sheffield a’r Athro Benjamin F. Fisher, Prifysgol Mississippi.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.