Gwent County History

Cyhoeddir y gyfres bwysig hon o gyfrolau awdurdodol ar hanes Gwent, o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Sir Gwent. Mae pob cyfrol unigol yn ymdrin â hanes demograffig, cymdeithasol ac economaidd, gwleidyddol a gweinyddol, a chrefyddol yr hen Sir Fynwy.

Golygydd y Gyfres: Yr Athro Ralph Griffiths, Prifysgol Abertawe.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.