g

h

h


Dyma gofiant i un o wragedd enwocaf Cymru. Cafodd Catrin o Ferain bedwar gŵr, chwech o blant, ac roedd ganddi ddisgynyddion dirifedi. Ond ei pherthynas â’r bardd Wiliam Cynwal sy’n datgelu cyfrolau am ei bywyd anturus yng Nghymru, Llundain ac ar gyfandir Ewrop.


h

h

Yn y gyfrol hon, dilynir trywydd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus.


h

h

Hanes arloesol y Goresgyniad Olaf ar Brydain, ger Abergwaun yn 1797, ynghyd â’r astudiaeth gyntaf o effaith hanesyddol a diwylliannol yr ymgais, gyda sylw i Jemima Nicholas a’i byddin o ferched mewn coch.


h

h

Mae’r astudiaeth gyntaf o gorpws Gillian Clarke o farddoniaeth ac ysgrifau mewn cyfnodolion yn tynnu sylw at ei harwyddocâd fel awdur Cymreig sy’n ymwybodol yn wleidyddol ac yn wyddonol ac yn gosmolegol o berthnasedd byd-eang.


Cyflwyniad o fywyd a gwaith dwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn. Mae’n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes gan nad oes ymchwil manwl wedi ei wneud cyn hyn ar Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders, dwy a bontiodd y bwlch rhwng yr awduresau petrusgar a ddenwyd allan o’u hogofau gan Granogwen, golygydd y Frythones (1879 – 89), a’r rhai a ddaeth ar eu hol yn yr ugeinfed ganrif. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at yr amryw gyfrolau ac erthyglau sydd wedi ymddangos ers yr 1980au ar gyfraniad hollbwysig y Gymraes at ddiwylliant ei chenedl. Mae’n lyfr delfrydol i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth y Gymraes yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dorri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes a chyfoethogi ein dealltwriaeth o awduron benywaidd anghofiedig y Gymru Gymraeg.


SPACE

SPACE

Cyfrol o feirniadaeth lenyddol arbrofol ar ffurf beirniadaeth epistolaidd – cyfres o lythyrau ffuglennol – sy’n cynnig deongliadau amrywiol o waith y bardd Menna Elfyn, ac yn rhoi cip inni ar ein hymwneud â llenyddiaeth a’n harferion darllen.


SPACE

SPACE

Thema’r llyfr hwn yw sut mae nofelwyr benywaidd Cymraeg wedi sôn am rai o’u profiadau corfforol mwyaf personol a dwys (yn bennaf beichiogrwydd a’r mislif) a sut mae’r drafodaeth honno wedi newid dros amser.


SPACE

SPACE

Hanes y mudiad merched yn y Gymru gyfoes, o frwydrau dros ddemocraatiaeth, yr hawl i bleidlais a’r gwrthwynebiad i gaethwasiaeth yn yr 19eg ganrif, drwy ddatblygiad y mudiad llafur ar ddechrau’r 20fed ganrif hyd at alwadau mwy diweddar am ryddid rhywiol a dadleuon y gymuned LGBTQ.


SPACE

SPACE

Cyfrol o draethodau gan awduron amrywiol sy’n myfyrio ar newidiadau mewn perthynas â materion rhywedd, dosbarth, tlodi, gwleidyddiaeth, yr amgylchedd, y cyfryngau a’r iaith Gymraeg yng Nghymru yn dilyn datganoli grym, ac sy’n ystyried dyfodol y genedl.


SPACE

SPACE

Astudiaeth o hunaniaeth gwragedd Cymru yn y cartref, yn y gweithle, mewn diwylliant a gwleidyddiaeth. Cyhoeddwyd gyntaf 1994 .


SPACE

SPACE

Dewch i ddarganfod 366 o wragedd rhyfeddol Cymru i ddeffro eich chwilfrydedd ac i’ch ysbrydoli bob diwrnod o’r flwyddyn. Pwy oedd tywysoges gyntaf Cymru? Pa Gymraes oedd yn fôr-leidr ac yn smyglwr? Pa delynores a reslwraig a daflodd ŵr i’r llyn? Pwy arweiniodd yr ymgyrch gyntaf dros ennill yr hawl i bleidlais i ferched?


SPACE

SPACE

Yn Seaglass, mae Kathryn Tann yn dwyn ynghyd funudau o’i bywyd ei hun, gan blethu gwaith ffeithiol-greadigol gyda llenyddiaeth natur a chofiant. Mae’n portreadu, gyda sylwgarwch pwerus a gonestrwydd teimladwy, daith merch ifanc wrth iddi dyfu’n oedolyn mewn byd modern.


SPACE

SPACE

Mae The Brontës as Gothic Writers yn archwilio’r ffyrdd y mae rhyddiaith a barddoniaeth y chwiorydd Brontë yn perthyn i’r genre Gothig. Dadleuir fod ystyried llenyddiaeth y Brontës yn y termau hyn yn helpu’r darllenydd i werthfawrogi beth oedd yn bwysig iddynt yn eu gwaith.


SPACE

SPACE

Un haf, yn dilyn marwolaeth tad a thaid, mae mam a merch yn aduno ym mhentref Betws Gwerful Goch. Yn yr hunangofiant telynegol hwn, mae Ellie Evelyn Orrell yn cludo’r darllenydd i’w gardd fynyddig, ac yn adlewyrchu ar haf a dreuliwyd yn gweithio gydag indigo, gan dystio i rym creadigrwydd mewn munudau o alar ac adferiad.


SPACE

SPACE

Cyfrol sy’n edrych ar rôl y fenyw yn hanes diweddar Cymru.


SPACE

SPACE

Llyfr poced llawn gwybodaeth am y gwragedd a gariodd y teitl Tywysoges Cymru ac am eu bywydau cythryblus, yn cynnwys mynegai defnyddiol. 15 llun du-a-gwyn.


SPACE

SPACE

Yn yr hunangofiant hynod hwn, mae Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, yn cofnodi magwraeth druenus gyda mam orthrymus.


SPACE

SPACE

Mae Women’s Lives yn atalw ac yn dathlu gwaith Elizabeth Petroff, ysgolhaig enwog ym maes Gwragedd Cyfriniol Canoloesol, gan argymell bod y portreadau o’r gwragedd hyn yn cynnig dadleuon grymus dros gydraddoldeb ac awdurdod ar ran y llenorion a’u cyflogai.