Politics and Society in Wales

Mae’r gyfres hon yn archwilio materion gwleidyddiaeth a llywodraeth, ac effeithiau datganoli ar y broses o lunio polisïau wrth i’r Cynulliad Cenedlaethol aeddfedu. Mae astudiaethau yn y gyfres yn cynnwys elfennau cryf o gymhariaeth, gan alluogi gwerthusiad mwy cytbwys o’r amgylchiadau yng Nghymru.

Golygyddion y Gyfres: Dr Paul Chaney, Prifysgol Caerdydd, a Dr Andrew Thompson, Prifysgol De Cymru.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.