The Public Law of Wales

Yn sgil rhoi pwerau deddfwriaethol newydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd y gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru o ran materion datganoledig yn gynyddol wahanol i’r gyfraith yn Lloegr. Bydd angen felly i gyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith yng Nghymru (ac mewn rhai rhannau o Loegr) allu nodi a defnyddio’r gyfraith berthnasol ar gyfer Cymru. Am y tro cyntaf erioed, mae’r gyfres hon yn darparu llyfrau sy’n cynnig archwiliad a chyflwyniad cynhwysfawr ar gyfraith Cymru: beth yw’r gyfraith honno a sut mae’n wahanol i’r gyfraith sy’n berthnasol yn Lloegr? Dyma gyfres i ddiwallu anghenion cyfreithwyr Cymru a’r rhai sydd wrthi’n ymarfer yn yr amgylchedd datganoledig ar hyn o bryd, yn ogystal â myfyrwyr ac athrawon.

Golygydd y Gyfres: Yr Athro Thomas Glyn Watkin, cyn-Brif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru, Llywodraeth y Cynulliad; Athro’r Gyfraith a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor; Athro’r Gyfraith, Ysgol y Gyfraith Caerdydd.

Hoffech chi ysgrifennu ar gyfer y gyfres hon? Cysylltwch â Chris Richards, Cynorthwydd Comisiynu a Golygyddol GPC, gyda’ch cais, gan gynnwys crynodeb fer o’r gwaith arfaethedig: chris.richards@press.wales.ac.uk. I ddarllen mwy am y wybodaeth rydym ei angen wrth wneud cynnig am lyfr, gweler ein tudalen ‘Cyhoeddi gyda GPC’.