Trefnwyd symposiwm ym Mangor ar yr 2il o Fai gan Gyfnewidfa Lên Cymru a Phrifysgol Cymru er mwyn trafod y berthynas sydd wrthi’n tyfu rhwng llenorion o Gymru a Tsieina. Hyrwyddwyd y berthynas gan rifyn arbennig diweddar cyfnodolyn o’r Shangai Translation Publishing House yn cynnwys cyfieithiadau o weithiau llenyddol o Gymru mewn Tsieinëeg. Cyhoeddwyd tua 4,000 copi o’r rhifyn hwn a dywedodd Dirprwy Prif Olygydd y cyhoeddwyr, Mr Wu Hong, yn ystod ei araith agoriadol, bod yr adborth wedi bod yn bositif iawn hyd yn hyn. Siaradodd Angharad Price yn rymus am y broses o gyfieithu ei nofel O! Tyn y Gorchudd i’r Saesneg a disgrifiodd hi a Francesca Rhydderch yr hanesion teuluol rhyfeddol a ysbrydolodd eu nofelau ill dwy. Profiadau eu mam-gu a’i thad-cu fel carcharorion rhyfel yn Hong Kong yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd wedi ysbrydoli nofel The Rice Paper Diaries yn achos Rhydderch. Gydag egni byrlymus, trafododd Jerry Hunter ei brofiadau fel Americanwr yng Nghymru o gyhoeddi gweithiau academaidd a chreadigol yn y Gymraeg. Dilynwyd ei araith gan adlewyrchiadau’r bardd pwysig o Tsieina, Hu Dong, ar ei brofiadau yntau o ysgrifennu a barddoni mewn Tsieinëeg ym Mhrydain, lle mae wedi byw ers 1990. Daethpwyd â’r symposiwm difyr i glo gyda thrafodaeth fywiog o’r camau nesaf mewn cryfhau’r berthynas lenyddol rhwng Tsieina a Chymru, ac edrychaf ymlaen at weld beth ddaw o’r syniadau a godwyd!