Nodwn gyda thristwch farwolaeth yr Athro Paul Garner, cyd-olygydd gyda’r Athro David George ar gyfres Gwasg Prifysgol Cymru, Astudiaethau Iberaidd ac America Ladin. Wedi cydweithio gyda Paul ers cychwyn y gyfres, roedd ei frwdfrydedd, ei ddysg a’i brofiad yn wir gaffaeliad yma. Yn ogystal â bod yn ysgolhaig blaenllaw yn ei faes, roedd Paul yn gwmni dihafal – roedd pob achlysur yn ei bresenoldeb yn llawn hiwmor. Mae’n gadael gwaddol trawiadol o waith sy’n gyfraniad pwysig i’r gymuned ysgolheigaidd.